Newyddion S4C

Manylion gweithwyr Llysgenhadaeth y DU wedi eu gadael i’r Taliban

The Independent 27/08/2021
maes awyr kabul

Mae dogfennau gyda manylion gweithwyr Afghanistan wedi eu gadael yn Llysgenhadaeth Prydain yn Kabul, sydd bellach yng ngafael y Taliban. 

Cafodd dogfennau ar gyfer saith o bobl o Afghanistan eu darganfod gan newyddiadurwyr papur newydd The Times wrth i’r Taliban batrolio’r safle, gyda thri ohonynt yn cael eu cyflwyno i’r Swyddfa Dramor, medd The Independent.

Mae’r tri unigolyn a’u teuluoedd yn saff, yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa.

Ychwanegodd y cafodd “pob ymdrech” ei wneud i geisio dinistrio gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif.

Adrodda The Independent fod y protocol ar wagio’r llysgenhadaeth, gan gynnwys dinistrio’r holl ddata a allai gyfaddawdu staff lleol, wedi methu yn sgil pa mor gyflym y gwnaeth y Taliban gipio Kabul.

Roedd y dogfennau yn cynnwys enwau a chyfeiriad un o aelodau fwyaf blaenllaw'r llysgenhadaeth, yn ogystal â gweithwyr eraill a’r rhai wnaeth gais am swyddi.

Yn y cyfamser, bydd y Pwyllgor Dethol Materion Tramor seneddol yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, yn ôl y cadeirydd, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Tom Tugendhat.

Ers i’r Taliban gipio grym, mae pryderon wedi codi ynghylch lles dinasyddion Afghanistan sydd wedi cyd-weithio gyda’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn y gorffennol, yn sgil ofnau y gallai’r grŵp eithafol geisio dial.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.