Caerfyrddin: Bwrw ymlaen gyda chynlluniau i atgyweirio castell y dref

Castell Caerfyrddin

Mae cynlluniau wedi cael eu hargymell ar gyfer atgyweiriadau i Gastell Caerfyrddin.

Mae’r cyngor sir wedi derbyn caniatâd adeilad rhestredig i ail-bwyntio ac atgyweirio hen wal y carchar a'r tŷ heddlu, y wal len ogleddol a'r cwrt blaen. 

Bydd gwaith ar ardd y bwthyn yn cael ei benderfynu unwaith y bydd y planhigion yn cael eu clirio.

Mae olion Castell Caerfyrddin, sy’n edrych dros Afon Tywi, yn heneb hynafol gofrestredig ac yn un o ddim ond tri adeilad rhestredig gradd un yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Castell Caerfyrddin wedi bod yn ganolbwynt i goncwest a gwrthryfel am ganrifoedd.

Mae pencadlys y cyngor sir o fewn perimedr yr hen gastell.

Roedd gwerth strategol a phwysigrwydd hanesyddol y castell ers dechrau'r 12fed Ganrif wedi eu hadlewyrchu mewn asesiad effaith treftadaeth ar ran y cyngor.

Dywedodd yr adroddiad gan Nathan Goss Conservation mai Castell Caerfyrddin oedd yr unig gastell brenhinol yng Nghymru am flynyddoedd lawer.

Dywedodd: “Ei hanes canoloesol yw stori brenhinoedd Lloegr a’u rhyfela bron yn barhaus gyda Thywysogion Cymru.

“Mae’n stori o goncwest, o wrthdaro, a’r frwydr rhwng ymosod ac amddiffyn. Fodd bynnag, mae hefyd yn stori am lywodraeth a’r heriau sy’n wynebu gweinyddiaeth yr hyn a oedd, i’r brenhinoedd Normanaidd, yn barth ffin anwadal.

"Y castell oedd pencadlys brenhinoedd Normanaidd yn ne Cymru ac un o’r cestyll pwysicaf yn y wlad.

“Dyma oedd y ganolfan y datblygodd tref gaerog ganoloesol Caerfyrddin o’i chwmpas, ac mae’n dal i ddominyddu’r treflun heddiw.

“Ar ôl yr Oesoedd Canol daeth y castell yn adfeilion ond parhaodd i gael ei ddefnyddio fel carchar tan y 1920au. Dychwelodd y safle i fod yn ganolfan weinyddol gyda dymchwel y carchar ym 1938 ac adeiladu Neuadd y Sir ym 1939-55, ac yn yr ystyr hwn mae’r castell yn parhau i ffynnu.

“Ar y cyfan, mae’r castell mewn cyflwr rhesymol, sy’n eithaf nodedig o ystyried ei oedran a’r dewis gwael o ddeunyddiau ar gyfer atgyweiriadau."

Image
Castell Caerfyrddin
Fe fydd hen waliau Castell Caerfyrddin yn cael eu hatgyweirio

Strwythur rhyfeddol

Dywedodd yr adroddiad y dylid ystyried yr atgyweiriadau sydd bellach wedi’u cymeradwyo fel gwaith “cynnal a chadw sydd ar ei hôl hi".

Ychwanegodd: “Bydd y gwaith yn helpu i gadw’r adfail, agor ardaloedd a oedd wedi’u cau o’r blaen a gwneud y strwythur rhyfeddol hwn sy’n eiconig o fewn treftadaeth y dref yn hygyrch.”

Mae’r castell yn cael ei reoli gan gorff treftadaeth Llywodraeth Cymru, Cadw, a oedd yn fodlon y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynu ar y cais am ganiatâd adeilad rhestredig.

Dywedodd y cyngor fod caniatâd heneb rhestredig dros dro wedi’i roi ar wahân.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin: “Mae’r ddau ganiatâd yn cynnwys amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gall unrhyw waith ddechrau, a bydd y rhain yn debygol o fod yn rhan o becyn gwaith y contractwyr.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i sicrhau’r cyllid angenrheidiol ar gyfer y gwaith gofynnol.

“Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, byddwn yn bwrw ymlaen ag ymarfer caffael. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cadarnhau dyddiad cychwyn ond rydym yn gobeithio cael diweddariad dros y misoedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.