Teyrngedau i fenyw 23 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae teulu menyw ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro wedi talu teyrnged i ferch a chwaer "llawn cariad".
Bu farw Beca Mai Richards, 23, o Langain, Caerfyrddin, yn yr ysbyty ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A478 ym Mhenblewin, Arberth ddydd Gwener diwethaf.
Mae ei theulu wedi cyhoeddi teyrnged i Beca Mai, "sydd o hyd wedi gofalu dros eraill", gan roi organau i helpu a rhoi bywyd gwell i eraill.
Dywedodd y teulu: "Rydym wedi ein chwalu'n llwyr gan golled Beca.
"Roedd hi'n ferch, chwaer, ffrind ac athrawes llawn cariad a charedigrwydd ac yn un sydd o hyd wedi gofalu dros eraill.
"Rydym yn ymfalchïo y gwireddwyd dymuniad Beca, fel ei chymwynas olaf, i fod yn rhoddwr, er mwyn cynnig bywyd gwell i eraill.
"Fel teulu, hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig yr Uned Gofal Dwys ac Ambiwlans Awyr Cymru, am eu cefnogaeth a gofal dros y dyddiau diwethaf.
"Ein dymuniad nawr yw cael amser i alaru'n breifat".
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod y teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig.