'Nifer' o filwyr UDA wedi eu lladd mewn ffrwydradau yn Kabul

Mae "nifer" o filwyr Unol Daleithiau'r America wedi eu lladd yn dilyn dau ffrwydrad ger maes awyr Kabul, yn ôl y Pentagon.
Daw hyn wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gadarnhau y bydd y broses o symud pobl allan o Afghanistan yn parhau.
Dywedodd ffynonellau amddiffyn y DU fod un o'r ffrwydradau wedi digwydd ger gwesty lle mae milwyr a newyddiadurwyr o Brydain wedi bod yn aros, gyda'r ail ger Abbey Gate.
Ond, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau nad oes unrhyw farwolaethau ymhlith milwyr a swyddogion llywodraeth y DU wedi eu hadrodd yn dilyn y digwyddiadau.
Dywedodd swyddogion o'r Taliban fod o leiaf 13 o bobl wedi eu lladd, gan gynnwys plant, ac mae'r grŵp wedi beirniadu'r ymosodiad yn "gryf", yn ôl Sky News.
Darllenwch y diweddaraf yma.