Llygaid y byd golff ar Gonwy ar gyfer Cwpan Curtis

Newyddion S4C 26/08/2021

Llygaid y byd golff ar Gonwy ar gyfer Cwpan Curtis

Fe fydd llygaid y byd golff ar Gonwy'r penwythnos hwn, wrth i’r dref groesawu cystadleuaeth Cwpan Curtis 2021.

Roedd y gystadleuaeth i fod i gael ei chynnal ym mis Mehefin 2020, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd sefyllfa Covid-19.

Bellach yn ei 41ain blwyddyn, mae’r gystadleuaeth hon i fenywod amatur wedi ei chynnal ers 1932.

Ers hynny, mae’r digwyddiad wedi bod ym Mhorthcawl ac yng Nghas-gwent, ond dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth ddod i’r gogledd.

Bydd yr ergydion gyntaf yn cael eu taro ar gwrs Clwb Golff Conwy am 07:45 bore dydd Iau, gyda’r chwarae yn parhau dros gyfnod o dridiau.

Image
S4C
Guto Lewis, Cadeirydd Tîm Trefnu Clwb Golff Conwy

Dywedodd Guto Lewis, Cadeirydd Tîm Trefnu, Clwb Golff Conwy: “Ma gynno chi Ryder Cup a Solheim Cup, ma’ hona i ddynion a merchaid proffesiynol a ‘ma nhw’n enwog iawn.

“Ac i’r hogia a’r merchaid amatur, ydi’r Walker cup a’r Curtis cup. Da chi’n mynd i weld y genod sydd yn mynd i fod yn ennill y cwpanau gorau yn y byd mewn dau, dri, 10 mlynedd nesa’.”

Mae’r gystadleuaeth yma yn cael ei gynnal bob dwy flynedd fel arfer, ond mae tair blynedd bellach ers yr ornest ddiwethaf yn Efrog Newydd.

Yr Americanwyr enillodd bryd hynny, ond nid ydynt wedi ennill yr ochr yma i fôr Iwerydd ers 2008.

‘Lleoliad grêt’

Yn eu cynhadledd i’r wasg ddydd Mercher, roedd Tîm Prydain ac Iwerddon yn llawn canmoliaeth i’r cwrs, sydd â golygfeydd godidog o’r Gogarth yn gefndir.

Dywedodd Lauren Walsh, Tîm Prydain ac Iwerddon: “Mae pawb wedi bod mor groesawgar. Mae’n lleoliad grêt i ddod iddo. Rydym ni gyd wrth ein boddau i fod yma.”

Mae Sir Conwy yn hen gyfarwydd â llwyfannu cystadleuaeth chwaraeon o bwys.

Fe fydd beicwyr y Tour of Britain yma fis nesaf, ond cyn hynny, y golffwyr sy’n serennu.

Dywedodd Gynghorydd Sir Conwy, Goronwy Edwards: “Ma’ ‘di cyfyngu i 4,000 o ymwelwyr oherwydd y cyfyngiadau, fysa lawer iawn mwy wedi dod dwi’n siŵr oherwydd safon y digwyddiad. Ond fel dwi’n deud, fydd o’n cael ei ddarlledu dros y wlad i gyd a tramor hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.