Cais i gymeradwyo rhagor o arian i ddiogelu hen westy yng Ngwynedd
Bydd cais yn cael ei gyflwyno i gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth i gymeradwyo rhagor o arian er mwyn diogelu adeilad yr hen Corbett Arms yn Nhywyn.
Mae'r gost hyd yma wedi cyrraedd £938,348.41, a'r amcan ydy y bydd y gost i wneud yr adeilad a'r safle’n ddiogel yn £1.5 miliwn.
Mae ystafelloedd yr hen westy, lle arhosodd John Lennon a Yoko Ono yn 1969, wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd, a nifer o ffyrdd gerllaw wedi bod ar gau oherwydd pryderon am ddiogelwch y safle.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi gwneud cais am ganiatâd i ddymchwel yr adeilad yn raddol, a gwneud gwaith cynnal a chadw i sefydlogi’r strwythur fyddai'n parhau yno.
Mae'r awdurdod wedi dweud yn flaenorol eu bod eisiau ceisio achub cymaint o'r adeilad â phosibl. Ond mae grŵp SAVE Britain's Heritage wedi lobïo'r cyngor mewn ymgais i geisio achub yr adeilad.
Mae cyn-westy’r Corbett Arms yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi bod ar gau ers tua 2011, ac yn ôl y cyngor, maen nhw wedi bod mewn trafodaethau gyda sefydliad Cadw drwy gydol y broses.
'Diogelu'r cyhoedd'
Yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i'r cabinet gan uwch swyddogion y cyngor, mae angen ariannu’r gwaith angenrheidiol o ddiogelu'r adeilad, er mwyn "diogelu’r cyhoedd a’r adeilad ei hun fel adeilad rhestredig."
Bu farw perchennog cyfreithiol yr adeilad yn 2012, ac nid oes grant profiant (probate) wedi ei gadarnhau ar gyfer yr ystad.
Mae'r adroddiad sydd wedi ei gyflwnyo i'r cabinet i'w ystyried ddydd Mawrth yn nodi "nad oedd opsiwn ond cyflwyno cais adeilad rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith dad-adeiladu rhannol yr adeilad, a’r gwaith cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi'r strwythur sydd yn weddill."
"Er mwyn gallu cymryd y camau hyd yma i ddiogelu’r cyhoedd a’r adeilad rhestredig, mae costau sylweddol i’r Cyngor," meddai'r ddogfen.
Mae'r costau yn cynnwys codi sgaffaldiau i ddiogelu aelodau'r cyhoedd, cau ffyrdd a rheoli traffig, diogelwch safle ac adeiladau, contractwr dymchwel arbenigol, peiriannydd strwythurol, gwaith ecoleg, a gwaith monitro adeiladau arbenigol parhaus.
Yn ôl yr adroddiad, byddai costau pellach o ganlyniad i'r gwaith dadadeiladu rhannol.
Yn ôl y ddogfen, mae hyn yn ddibynnol ar y cais adeilad rhestredig yn cael ei gymeradwyo, a maint y gwaith.
Mae'r Prif Swyddog Cyllid, yn nodi nad oes ffynhonnell ariannol addas yn bodoli o fewn yr Adran Amgylchedd ac felly nad oes " gwir ddewis ond ariannu’r gwaith brys yma o’r Gronfa Strategaeth Ariannol."
"Wrth gwrs, mae hyn yn golygu fod £1.5miliwn yn llai ar gael er mwyn ymdrin â phwysau ar y gyllideb o fewn y flwyddyn neu i gryfhau ein reserfau cyffredinol,"meddai.
