Y cyfarwyddwr Rob Reiner a’i wraig wedi eu canfod yn farw yn eu cartref

Rob Reiner

Mae’r cyfarwyddwr ffilmiau Rob Reiner a’i wraig Michele Singer Reiner wedi eu canfod yn farw yn eu cartref yn Los Angeles.

Mae adroddiadau ei fod ef a’i wraig wedi marw o glwyfau trywanu.

Cafodd dyn 78 oed a dynes 68 oed eu canfod yn farw y tu mewn i'r eiddo, meddai swyddog o wasanaethau brys Los Angeles.

Dywedodd ffynhonnell o'r gwasanaethau brys wrth asiantaeth newyddion AP bod aelod o'r teulu yn cael ei holi gan ymchwilwyr.

Roedd Rob Reiner wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Sleepless In Seattle a The Wolf Of Wall Street.

Roedd wedi cyfarwyddo This Is Spinal Tap, The Princess Bride, When Harry Met Sally ac A Few Good Men.

Mewn datganiad dywedodd y cyn Arlywydd Barack Obama ei fod ei galon ef a'i wraig Michelle wedi "eu torri".

"Dan yr holl straeon a gynhyrchodd roedd cred ddofn yn naioni pobl - ac ymrwymiad gydol oes i roi'r gred honno ar waith," meddai.

Dywedodd maer Los Angeles, Karen Bass, fod marwolaeth Reiner yn golled fawr i’r ddinas.

"Mae cyfraniadau Rob Reiner yn atseinio ledled diwylliant a chymdeithas America, ac mae wedi gwella bywydau nifer fawr o bobl trwy ei waith creadigol a’i waith yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd," meddai.

"Yn actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol clodwiw, roedd bob amser yn defnyddio ei roddion i wasanaethu eraill."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.