Menywod o Brydain wedi derbyn sberm gan roddwr sydd â genyn sy'n achosi canser
Mae rhai menywod o Brydain wedi derbyn sberm gan roddwr sydd â genyn sy'n achosi canser.
Mae'r un rhoddwr sberm sydd â mwtaniad genetig (genetic mutation) sy’n cynyddu risg canser hyd at 90% yn dad i o leiaf 197 o blant ledled Ewrop, yn ôl ymchwiliad gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd.
Mae unrhyw blant a gaiff eu geni o'r sberm hwn yn cario'r mwtaniad, ac mae rhai o blant yr unigolyn dan sylw wedi marw yn barod.
Mae "nifer fechan" o fenywod o Brydain wedi derbyn sberm gan y rhoddwr tra'n derbyn triniaeth yn Denmarc, meddai rheoleiddiwr cwmnïoedd ffrwythlondeb.
Y gred yw bod pob un o'r menywod o Brydain sydd wedi eu heffeithio wedi cael gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd.
Fe wnaeth yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) gadarnhau nad oedd y sberm wedi ei ddosbarthu mewn clinigau yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl ymchwiliad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd roedd y dyn wedi cael ei dalu i roi sberm tra'n fyfyriwr ac fe gafodd y sberm ei ddefnyddio am tua 17 mlynedd.
Yn y Deyrnas Unedig mae sberm rhoddwyr yn gallu cael ei ddefnyddio i greu plant mewn hyd at 10 teulu gwahanol.
Ond mewn gwledydd eraill, mae'n wahanol.
Dywedodd y Banc Sberm yn Denmarc wrth y BBC bod y "rhoddwr ei hun a'i deulu ddim yn sâl" a bod y mwtaniad "ddim yn cael ei ganfod trwy sgrinio geneteg."
‘Syndrom prin’
Roedd y dyn, sydd heb ei enwi, wedi pasio profion sgrinio i roddwyr.
Ond roedd 20% o'i sberm yn cario mwtaniad genetig i’r genyn TP53, yn ôl ymchwiliad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd.
Mae'r genyn TP53 yn diogelu'r person rhag canser trwy reoli tyfiant celloedd, ac mae'r rhai sydd â mwtaniad yn y genyn hwn yn byw gyda syndrom Li-Fraumeni.
Mae'r syndrom yn un "prin", yn ôl erthygl o'r Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau.
Ychwanegodd y corff mai tua 1,000 o deuluoedd sy’n byw gyda'r syndrom ledled y byd.
Mae pobl a gaiff eu heffeithio yn gorfod cadw llygaid yn gyson am diwmorau.
Mae hynny'n cynnwys canser y fron, tiwmorau'r ymennydd, osteosarcoma, sarcomas meinwe meddal a chanserau plentyndod.