Tad Madeleine McCann yn galw am fwy o graffu ar y cyfryngau
Mae tad Madeleine McCann yn galw am fwy o graffu ar y cyfryngau ym Mhrydain.
Yn ôl Gerry McCann fe wnaeth y wasg "yn gyson ymyrryd yn yr ymchwiliad" i ddiflaniad ei ferch yn 2007. Mae'n credu fod hyn wedi amharu ar ymgais sydd wedi bod i ddod o hyd iddi.
Fe ddiflannodd Madeleine, oedd yn dair ar y pryd tra roedd y teulu ar wyliau ym Mhortiwgal.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 mae'n dweud nad yw "rheoleiddio’r wasg bellach yn flaenoriaeth" i'r llywodraeth Lafur ers iddyn nhw ddod i rym.
Mae eisiau i ail ran o Ymchwiliad Leveson gychwyn unwaith eto.
Bwriad yr ail ran oedd edrych ar weithredu anghyfreithlon gan y cyfryngau a pherthynas newyddiadurwyr gyda'r heddlu a gwleidyddion. Ond fe benderfynodd y blaid Geidwadol yn 2018 beidio bwrw ymlaen gyda'r ymchwiliad.
'Boddi'
Yn y cyfweliad gyda'r BBC mae Mr McCann yn dweud eu bod nhw fel teulu wedi bod yn "lwcus i oroesi" am fod newyddiadurwyr yn dod i'w dy am fisoedd ar ôl i'w ferch ddiflannu.
"Roedd gennym ni gefnogaeth aruthrol ond fe allai addo i chi roedd yna adegau pan o'n i yn teimlo mod i yn boddi. Ac yn anad dim y cyfryngau oedd y rheswm," meddai.
Mae Mr McCann a'i wraig, Kate McCann ymhlith 30 o bobl sydd wedi arwyddo llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i gychwyn ail ran o Ymchwiliad Leveson.
Ymhlith yr unigolion eraill sydd wedi arwyddo'r llythyr mae teuluoedd trychineb Hillsborough a mam y cyflwynydd teledu Caroline Flack.
Cafodd Ymchwiliad Leveson ei gynnal rhwng 2011 a 2012 yn sgil sgandal hacio ffonau.
Fe gafodd casgliadau'r ymchwiliad eu cyhoeddi yn 2012 ac fe gafodd corff rheoleiddio newydd ei ffurfio, Ipso.
Yn ôl Mr McCann dyw'r ail ran o'r ymchwiliad "bron yn sicr" ddim wedi digwydd am fod gwleidyddion Prydain meddai yn ofnus o'r wasg.
Dywedodd hefyd bod gwleidyddion Llafur cyn yr etholiad cyffredinol wedi gaddo gweithredu'r argymhellion a gafodd eu gwneud yn rhan gyntaf yr ymchwiliad ond bod hyn ddim wedi digwydd.
Mae llefarydd DCMS wedi dweud wrth y BBC eu bod yn deall bod "aflonyddu ac ymyrraeth gan y wasg yn achosi gofid mawr" i deuluoedd a dioddefwyr.
Maent yn dweud bod yr Ysgrifennydd Diwylliant wedi "cwrdd gydag unigolion a theuluoedd sydd wedi profi ymyrraeth fel hyn yn y gorffennol ac mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i wneud yn siŵr na fydd methiannau fel hyn byth yn cael eu hail adrodd."
