'Hawliau dynol mewn perygl yng Nghymru' medd corff cydraddoldeb

Cadair Olwyn

Mae rheoleiddiwr cydraddoldeb wedi rhybuddio bod hawliau dynol mewn perygl yng Nghymru.

Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn honni i Lywodraeth Cymru fethu â chyflawni rhai ymrwymiadau rhyngwladol .

Ymhlith y pryderon mae diffyg cynnydd o ran gwella mynediad pobl ag anableddau at wasanaethau iechyd, meddai'r adroddiad.

O ganlyniad mae'r rheoleiddiwr yn galw ar y llywodraeth i "gymryd camau pellach" a chyhoeddi eu hadolygiad o'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad ac yn awyddus i gydweithio gyda'r comisiwn i fynd i'r afael â'r materion yma.

'Cynnydd cyfyngedig'

Er mwyn nodi Diwrnod Hawliau Dynol ddydd Mercher, fe wnaeth y comisiwn archwilio a ydi Llywodraeth Cymru wedi gweithredu argymhellion a gafodd eu cyflwyno gan Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Fe wnaeth y comisiwn gynnal dros 80 o asesiadau ar draws ystod o bynciau hawliau dynol sydd o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru.   

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn gynharach eleni. Fe wnaethon nhw hefyd ailadrodd eu huchelgais i ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Er bod y llywodraeth wedi gweithredu rhai o'r argymhellion, mae'r comisiwn yn rhybuddio fod bylchau’n parhau mewn rhai meysydd.

Dywedodd Martyn Jones JP DL, cadeirydd dros dro Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, bod "cynnydd cyfyngedig". 

"Mae ein dadansoddiad newydd yn dangos bod cynnydd cyfyngedig wedi bod tuag at weithredu ymrwymiadau hawliau dynol allweddol," meddai.

"Ymhlith ein hasesiadau, fe wnaethom archwilio a oedd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wella mynediad pobl anabl at wasanaethau iechyd. "

Ychwanegodd fod "cynnydd araf" tuag at gynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn "peri pryder i bob un ohonom". 

"Nid moethau i’w hennill yw ein hawliau bob dydd, ond rhwymedigaethau y mae’n rhaid i lywodraethau eu cynnal," meddai.

"Dyna pam rydym wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip i’w hatgoffa o rwymedigaethau’r llywodraeth i amddiffyn hawliau dynol sylfaenol pawb."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb yng Nghymru ac yn croesawu’r craffu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ein cynnydd. 

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau pwysig, gan gynnwys cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol, gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chamfanteisio, ac adolygu ein Cynllun Hawliau Pobl Anabl - a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig - i nodi camau gweithredu clir a mesuradwy i wella mynediad at wasanaethau. 

"Byddwn yn ystyried adroddiad y Comisiwn yn ofalus wrth i ni barhau i weithio gyda phobl anabl, y Comisiwn, ac eraill i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.