'Pob plentyn yn haeddu Nadolig': Ymgyrch i roi gliniaduron i 100 o blant mewn llochesi yn y gogledd

'Pob plentyn yn haeddu Nadolig': Ymgyrch i roi gliniaduron i 100 o blant mewn llochesi yn y gogledd

Mae menter ym Môn yn anelu at roi gliniaduron i 100 o blant mewn llochesi Cymorth i Ferched yn y gogledd fel anrheg Nadolig.

Bwriad Ailgylchu TG Gogledd Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Llangefni, ydi adnewyddu hen liniaduron drwy brynu rhannau newydd ar eu cyfer.

Mae’r fenter eisoes wedi derbyn 100 o liniaduron gan Heddlu’r Gogledd, ond mae angen codi tua £75 ar gyfartaledd i adnewyddu pob dyfais.

Un sy’n gwirfoddoli i’r fenter ac yn cydnabod pwysigrwydd technoleg ym mywydau pobl ifanc ydi Selwyn Roberts, cyn-athro 69 oed yn yr ardal.

"Mae ‘na dros 160 o blant ar y funud yn gogledd Cymru yn byw mewn llochesi o’r math yma," meddai wrth Newyddion S4C.

"Maen nhw’n aml iawn wedi gadael eu cartrefi yn ganol nos, wedi gorfod gollwng bob dim, dim byd ganddyn nhw a nhwythau angen y pethau 'ma.

"A'r dyddiau yma, maen nhw’n cael gwaith i’w wneud ar y laptop adra, maen nhw’n cyflawni’r gwaith ar-lein ac yn ei yrru o’n nôl i gael ei farcio ar-lein."

Gan fod nifer o blant wedi’u hanfon ymhell o’u cartrefi am resymau diogelwch, ychwanegodd Mr Roberts fod technoleg yn eu galluogi i gysylltu â’u ffrindiau.

"Mae wbath fel hyn sy’n dod wedi’i lapio’n barod fel presant dros ‘Dolig yn mynd i gyfri lot iddyn nhw," meddai.

Image
Gliniaduron ar gyfer llochesi Cymorth i Ferched
Mae'r fenter eisoes wedi derbyn y gliniaduron, ond yn dibynnu ar roddion i'w hadnewyddu erbyn y Nadolig

Mae gwasanaeth Gorwel, sy’n rhan o Gymdeithas Tai Grŵp Cynefin, yn rhedeg pump o lochesi ar draws Gwynedd a Môn.

Mae’r llochesi yma yn darparu llety diogel i fenywod a phlant sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, gan roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol iddyn nhw.

Dywedodd prif weithredwr Gorwel, Rhea Humphreys, bod cael grantiau ar gyfer technoleg yn heriol gan nad yw’n cael ei ystyried yn hanfodol.

"Dwi’n meddwl fod y cynllun yn syniad gwych ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei wireddu," meddai.

"Byddai cael gliniadur yn cynnig sefydlogrwydd i’r plant a’u mamau, ac mae’n cael ei ddefnyddio nawr ar gyfer mynegiant creadigol.

"Byddai hefyd yn gwneud iddyn nhw deimlo'n llai unig, ac yn eu helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned maen nhw’n byw ynddi."

Ychwanegodd bod rhai mamau a'u plant yn aros yn y llochesi am hyd at ddwy flynedd yn sgil oedi am dai cymdeithasol.

'Pob plentyn yn haeddu Nadolig'

Mae Sabrina Mulligan, 34, o Amlwch, wedi bod yn cefnogi llochesi Cymorth i Ferched yng Ngwynedd ac Ynys Môn ers degawd, gan ddarparu popeth o wyau Pasg i becynnau crefft ac anrhegion Nadolig.

"Yn anffodus, mae gennym ni gryn dipyn o bobl ifanc yn eu harddegau eleni, felly bydd gliniadur yn eu galluogi i wneud eu gwaith," meddai.

"Mae gennym ni lawer o famau eleni hefyd, ac weithiau maen nhw'n ceisio gwneud ceisiadau am swyddi, jyst trio cael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

"Ond bydd rhai ohonyn nhw'n troi i fyny heb ddim byd o gwbl, felly hoffwn pe gallwn i roi mwy na gliniadur iddyn nhw."

Mae Ms Mulligan, sy'n fam i dri o blant, wedi annog eraill yn yr ardal i godi arian ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru.

Y Nadolig yma, mae trigolion Môn wedi codi dros £3,000 ar gyfer llochesi'r elusen yn y gogledd.

"Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, os ydych chi mewn sefyllfa i helpu, y dylech chi," meddai.

"Mae pob plentyn yn haeddu cael mwynhau'r Nadolig, ac mae pob mam yn haeddu bod yn ddiogel.

"Oce, allwn ni ddim newid hynny, ond gallwn ni roi beth bynnag y gallwn ni iddyn nhw."

Rhif llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gyfer dioddefwyr trais yn y cartef: 0808 80 10 800

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.