Bil Tybaco a Fêps: Gwahardd ysmygu i genhedlaethau'r dyfodol

Person yn ysmygu

Fydd pobl ifanc fydd yn 18 oed yn 2027 ddim yn gallu prynu sigarennau yn gyfreithiol yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl i'r Senedd gefnogi bil hanesyddol sydd yn effeithio ar bobl ifanc a gafodd eu geni ar 1 Ionawr 2009.

Mae'r Bil Tybaco a Fêps  yn berthnasol i bob un o bedair gwlad y DU.

Cafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan ac fe fydd yn golygu cyfyngiadau newydd ar dybaco a fepio.

Ymhlith y newidiadau bydd cynllun trwyddedu newydd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwerthu sigarennau neu gynnyrch fepio.

Bydd Safonau Masnach Cymru yn cael dros £800,000 dros gyfnod o dair blynedd i weithredu'r mesurau newydd.  

Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn barod wedi pasio'r ddeddfwriaeth.

'Diwrnod hanesyddol'

Ar hyn o bryd mae'r Bil yn cael ei ystyried gan Dŷ'r Arglwyddi ar ôl cael cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy y bydd y mesur yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag bod yn gaeth i nicotin.

"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Er gwaetha'r cynnydd gwirioneddol rydyn ni wedi'i wneud o ran gostwng lefelau smygu, mae tybaco yn parhau i fod yn un o brif achosion clefydau y gellir eu hatal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru.

"Mae'r Bil Tybaco a Fêps yn rhoi cyfle unigryw inni fynd i'r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc, problem sy'n mynd yn fwyfwy difrifol. Mae'n gyfle i sicrhau gwelliant cynhwysfawr a sylweddol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru a'r DU."

Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver mae'r Bil yn cynnig "cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i dorri'r cylch"  ac yn gyfle i "amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag cynnyrch sydd wedi achosi niwed enfawr."

Llun: Jonathan Brady/PA 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.