Volodomyr Zelensky yn barod i gynnal etholiadau yn Wcráin
Mae Arlywydd Wcráin wedi dweud ei fod yn barod i gynnal etholiadau yn y wlad.
Daw hyn ar ôl i Donald Trump ddweud fod Volodymyr Zelensky yn "defnyddio'r rhyfel" fel esgus i beidio cynnal etholiad.
Mae Zelensky wedi dweud y gallai'r etholiad ddigwydd yn y 60 i 90 diwrnod nesaf os y byddai yna sicrwydd am ddiogelwch.
Roedd tymor Zelensky fel Arlywydd fod dod i ben ym mis Mai 2024. Ond yn sgil y rhyfel rhwng y wlad a Rwsia cafodd yr etholiad ei ohirio.
Fe ddywedodd Trump mewn cyfweliad gyda Politico: "Maen nhw yn siarad am ddemocratiaeth ond mae'n cyrraedd pwynt lle nad ydy o yn ddemocrataidd bellach."
Mae Rwsia yn gyson wedi honni bod Arlywydd Wcráin yn arweinydd anghyfreithlon. Maent hefyd yn mynnu bod angen cynnal etholiadau newydd fel rhan o unrhyw gytundeb heddwch.
Cytuno am yr angen i gynnal etholiadau mae Trump.
Mae o'n awgrymu heb dystiolaeth mai Zelensky yw'r prif rwystr tuag at heddwch.
Ar hyn o bryd mae trafodaethau yn digwydd rhwng y ddwy wlad wrth i America wthio am gadoediad fyddai yn dod â'r rhyfel i ben.
Mae'r pwnc o gynnal etholiad yn Wcráin wedi codi ei ben sawl gwaith ond mae'r ymateb yn y wlad wastad wedi bod yn un sydd ddim yn ffafrio gwneud hyn.
Y ddadl yw bod angen cynnal undod o fewn Wcráin tra bod y rhyfel yn parhau.