Storm Bram: Rhybuddion llifogydd yn parhau
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau ddydd Mercher wedi i Storm Bram daro Cymru.
Wedi glaw trwm ledled y wlad ddydd Mawrth mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn rhai ardaloedd.
Mae'r rhain mewn grym ger Afon Tywi wrth Gei Caerfyrddin a rhwng Llandeilo ac Aberteifi, Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod ac Afon Erfynwy yn Llanymynech.
Hefyd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 19 rhybudd 'byddwch yn barod' am lifogydd mewn sawl ardal.
Roedd Pont Tywysog Cymru ar gau rhwng 20.00 ddydd Mawrth a 06.00 ddydd Mercher er mwyn caniatáu i byst lamp sydd mewn peryg o syrthio cael eu tynnu oddi yno.
Ddydd Mercher mae rhai o deithiau llongau fferi o borthladdoedd Caergybi ag Abergwaun i Iwerddon wedi eu canslo.
Yng Nghaergybi, mae Terfynell 5 yn parhau i fod ar gau yno wedi "digwyddiad angori" yn ystod y penwythnos. Mae'r tywydd garw yn golygu nad oes modd cynnal archwiliad o'r safle ar hyn o bryd.
Fe wnaeth y National Grid dweud bod mwy na 1,600 o dai heb bŵer yn ne a gorllewin Cymru nos Fawrth hefyd.
Mae gwasanaethau trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael eu canslo wedi i drên daro coeden a oedd wedi disgyn ar draws y cledrau yn Sir Conwy nos Fawrth.
Roedd 17 o deithwyr ar y trên ar y pryd, meddai'r cwmni ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Erbyn hyn mae staff Network Rail wrthi yn symud y goeden, ond bydd y llinell ar gau am gyfnod.
Mae gwasanaeth bws bellach yn gweithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.