‘Cariad arallfrydol’: Tara Bethan yn cyhoeddi ei bod wedi cael babi

S4C

Mae Tara Bethan wedi cyhoeddi ei bod hi wedi cael babi.

Cyhoeddodd y gantores sy’n canu dan yr enw Tara Bandito enedigaeth Ffredi Orig Roberts ar ei chyfrifon cymdeithasol fore dydd Mercher.

Mae'r enw canol Orig yn gyfeiriad at diweddar dad Tara, y reslar proffesiynol Orig Williams.

“Doedden i ddim yn gwybod y gallai bywyd fod cystal â hyn,” meddai ei neges ar Instagram.

“Mae Snŵp Dog, Wil a fi yn ffrwydro â chariad. Cariad arallfydol.”

Image
Neges Instagram Tara Bethan
Y neges ar Instagram

Wrth siarad â Newyddion S4C yn 2022, roedd hi wedi dweud bod angen trafodaeth fwy agored am drafferthion beichiogi.

Yn sgil ei phrofiad, fe ddechreuodd bodlediad newydd gyda’i ffrind a’r actores Erin Richards - ‘Not Not Trying’.

Roedd hi wedi cyhoeddi ei bod hi’n disgwyl plenty ym mis Mehefin eleni gyda neges yn dweud: “Bwmp Bandito incoming. Rioed 'di teimlo mor ffodus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.