Y cyn ddarlledwr Tim Westwood yn gwadu treisio ac ymosod yn rhywiol
Mae cyn gyflwynydd BBC Radio One, Tim Westwood, wedi pledio’n ddieuog i dreisio ac ymosod yn rhywiol.
Mae Westwood, 68 oed, wedi’i gyhuddo o dreisio ac ymosod ar saith ddynes dros gyfnod o bedwar degawd.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Llun, gwadodd Westwood bedwar cyhuddiad o dreisio, naw cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Fe wnaeth y cyn gyflwynydd radio siarad er mwyn cadarnhau ei enw ac i bledio’n ddieuog yn unig.
Mae Westwood wedi’i gyhuddo o bedwar ymosodiad anweddus yn Llundain yn y 1980au, yn ogystal â thri achos o ymosod yn anweddus yn y BBC yn y 1990au.
Mae honiadau hefyd iddo dreisio dynes mewn gwesty yn 1996.
Mae’n wynebu dau gyhuddiad ychwanegol o ymosod yn anweddus ac un o dreisio, mewn cyfeiriad yn Llundain yn y 2000au cynnar, a dau achos o dreisio mewn cyfeiriad yn Llundain yn y 2010au.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes mewn clwb nos yn Stroud, Sir Gaerloyw, yn 2010.
Mae’n gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.
Cafodd 25 Ionawr 2027 ei nodi fel dyddiad posib ar gyfer yr achos. Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ar yr amod na fydd yn cysylltu â’r achwynwyr.
(Llun: PA)