Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD

Sgorio
CPD Bae Colwy

Bydd rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG yn mynd â’r sylw brynhawn Sadwrn, ond cyn hynny bydd pedair o gemau cynghrair yn cael eu cynnal nos Wener.

Dim ond llond llaw o gemau sydd ar ôl i’w chwarae cyn yr hollt yn y tabl ym mis Ionawr, ac hyd yma dim ond Y Seintiau Newydd sydd wedi selio eu lle yn yr hanner uchaf gyda’r pencampwyr 12 pwynt yn glir ar frig y gynghrair wedi 18 gêm.

31 pwynt yw’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont a Cei Connah wedi pasio’r targed hwnnw’n barod, tra bod Caernarfon a Bae Colwyn yn agosáu at y nod.

Bydd Met Caerdydd (7fed) a’r Bala (8fed) yn gobeithio cadw’r pwysau ar Y Barri (6ed) yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf gan mae dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r tri chlwb yng nghanol y tabl.

Ac yn y frwydr i osgoi’r cwymp mae’r tri isaf yn wynebu gemau caled oddi cartref nos Wener.

Nos Wener, 5 Rhagfyr

Caernarfon (4ydd) v Y Fflint (10fed) | Nos Wener – 19:45

Mae Caernarfon wedi llithro i’r 4ydd safle ar ôl rhediad o dair gêm gynghrair heb ennill, yn cynnwys gemau cyfartal yn erbyn y ddau isa’n y tabl, Llanelli a Hwlffordd.

Er hynny, byddai buddugoliaeth i’r Caneris nos Wener yn eu codi i’r ail safle gyda 32 o bwyntiau, sydd yn debygol o fod yn ddigon i hawlio lle’n y Chwech Uchaf.

Gemau tan yr hollt: 

Caernarfon: FFL (c), BAE (c), BALA (oc), CEI (c) ͏

Y Fflint: CFON (oc), HWL (c), CEI (c), BAE (oc), BALA (c)

Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill dwy o’u 12 gêm gynghrair ddiwethaf (vs Llanelli a Llansawel), a dyw carfan Lee Fowler m’ond wedi ennill unwaith oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn (vs Llanelli).

Roedd hi’n ornest gofiadwy rhwng y timau yn y gêm gyfatebol ym mis Awst ble enillodd Caernarfon o 5-2 ar Gae y Castell gyda nifer o goliau godidog yn cael ei sgorio gan y ddau dîm.

Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u 10 gornest flaenorol yn erbyn Caernarfon, ac mae pedair blynedd wedi pasio ers i’r Sidanwyr ennill oddi cartref yn erbyn y Cofis pan sgoriodd Michael Wilde ddwywaith ar yr Oval ym mis Hydref 2021 (Cfon 2-3 Ffl).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ͏✅✅➖➖❌

Y Fflint: ❌❌➖❌➖

Cei Connah (3ydd) v Bae Colwyn (5ed) | Nos Wener – 19:45 

Mae Cei Connah wedi croesi’r trothwy o 31 o bwyntiau, sydd yn hanesyddol wedi bod yn ddigon i gyrraedd y Chwech Uchaf, ac mae tîm John Disney wedi gwneud hynny gyda chwe gêm ar ôl i’w chwarae cyn yr hollt.

Mae’r Nomadiaid wedi mynd ar rediad arbennig o naw o gemau cynghrair heb golli gan ddringo i’r tri uchaf yn y tabl gyda gemau wrth gefn.

Roedd hi’n fuddugoliaeth ryfeddol i Fae Colwyn o 5-4 gartref yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn wrth i Jordan Davies daro hatric i’r Gwylanod.

Honno oedd y gêm gyda’r nifer fwyaf o goliau yn y Cymru Premier JD ers i Gei Connah guro’r Fflint o 7-2 ym mis Rhagfyr 2024.

Mae Bae Colwyn wedi ennill saith o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac yn anelu i fod y clwb cyntaf i hawlio lle’n y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn nhymor 2018/19.

Gemau tan yr hollt: 

Cei Connah: BAE (c), LLS (c), FFL (oc), YSN (c), BARR (c) CFON (oc) ͏

Bae Colwyn: CEI (oc), CFON (oc), FFL (c), YSN (oc)

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Bae Colwyn, ac 1-1 oedd hi’n y gêm gyfatebol ar Ffordd Llanelian ar benwythnos agoriadol y tymor.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅➖✅✅✅

Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌✅

Met Caerdydd (7fed) v Llanelli (12fed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl colli dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae Met Caerdydd yn gobeithio cyrraedd y Chwech Uchaf am y pedwerydd tymor o’r bron.

Gemau tan yr hollt: 

Met Caerdydd: LLI (c), LLS (c), BARR (oc), HWL (c), PEN (oc) ͏

Llanelli: MET (oc), HWL (oc), PEN (c), BARR (oc)

Ond ar ddechrau’r penwythnos mae’r myfyrwyr yn eistedd yn yr hanner isaf, ac hynny’n bennaf am iddyn nhw ddechrau’r tymor yn araf gan fethu ag ennill dim un o’u naw gêm agoriadol.

Dim ond un pwynt oedd yn gwahanu Met Caerdydd a Llanelli ar ôl naw gêm gynta’r tymor, ond mae carfan Ryan Jenkins wedi troi’r gornel, tra bo’r Cochion yn parhau i stryffaglu ar waelod y tabl.

Dyw Llanelli m’ond wedi cipio un pwynt o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 10 gôl mewn 18 gêm tydi pethau ddim yn argoeli’n dda i dîm Lee John.

Mae Met Caerdydd wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Llanelli, yn cynnwys buddugoliaeth o 3-1 ar Barc Stebonheath yn gynharach y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏➖✅❌✅➖

Llanelli: ❌❌❌➖❌

Y Bala (8fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)

Mae’r Bala wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 11 tymor diwethaf, ond mae perygl i’r clwb fethu’r nod eleni am y tro cyntaf ers tymor 2013/14.

Sgorio goliau yw prif broblem Y Bala, gan mae dim ond Llanelli (0.6 gôl y gêm) sydd wedi rhwydo llai na thîm Steve Fisher yn y gynghrair y tymor hwn (0.8 gôl y gêm).

Gemau tan yr hollt: 

Y Bala: HWL (c), YSN (oc), CFON (c), FFL (oc) ͏

Hwlffordd: BALA (oc), FFL (oc), LLI (c), MET (oc), LLS (c)

Ar ôl hawlio lle’n Ewrop y tymor diwethaf, mae Hwlffordd mewn dipyn o frwydr i osgoi’r cwymp eleni gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r Adar Gleision, Llansawel a’r Fflint rhwng y 9fed a’r 11eg safle.

Dyw Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u 16 gêm oddi cartref ym mhob cystadleuaeth yn 2025 (0-1 vs Llansawel), ac ar ôl cyfnod o chwe mlynedd yn y Cymru Premier JD mae angen i dîm Tony Pennock godi’r safon neu wynebu brwydr galed i aros yn y gynghrair.

Tydi Hwlffordd heb golli yn eu pum gornest flaenorol yn erbyn Y Bala, gan gadw llechen lân ym mhedair o’r pum gêm rheiny (ennill 3, cyfartal 2).

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ➖✅❌❌➖

Hwlffordd: ➖❌➖✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.