Gwobr arbennig i ŵr a gwraig o Ddolgellau am eu cyfraniad i chwaraeon

Clwb pwer seiclo

Mae gŵr a gwraig o Ddolgellau wedi derbyn gwobr arbennig am eu cyfraniad i chwaraeon yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Steve ac Isobel Weake ddechrau clwb beicio addasol (adaptive cycling) ddegawd yn ôl i roi cyfle i bobl gydag anableddau a’u teuluoedd i gael mwynhau’r awyr agored.

Cafodd Clwb Beicio Addasol Pŵer Seiclo ei sefydlu’n wreiddiol mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Anabledd Cymru.

Erbyn hyn, mae 40 o blant ag oedolion gydag anghenion addysgol arbennig yn mynd i sesiynau'r clwb yn wythnosol.

Mae'r clwb hefyd yn cydweithio gydag Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon ac Ysgol Hafod Lon ym Mhenryndeudraeth.

'Lledaenu'r gair'

Nos Iau fe wnaeth y pâr dderbyn gwobr am eu gwasanaeth i chwaraeon yng ngwobrau blynyddol Byw'n Iach.

"Rydyn ni wedi synnu ein bod ni wedi cael gwobr am yr hyn rydyn ni wedi bod yn mwynhau ei wneud ers amser maith," meddai Ms Weake, 65.

"Ond os yw'n helpu i ddenu pobl newydd i'r clwb sydd eisiau dod i ddefnyddio'r beiciau addasol, neu sydd eisiau dod i helpu, yna mae hynny'n wych!"

Image
Clwb pwer seiclo
Steve (helmed melyn), Isobel (helmed pinc) gyda'r gwirfoddolwyr Louise ac Andy

Ychwanegodd Mr Weake, 73, a oedd yn arfer gweithio i wasanaeth plant Derwen: "Dw i'n meddwl mai dyna bwynt y gwobrau i ni, sef lledaenu'r gair.

"Lledaenu'r gair ychydig a gwneud pobl yn ymwybodol bod rhywbeth allan yna y gallant ei wneud a chefnogi ni."

Mae’r clwb yn cynnal sesiynau wythnosol ar benwythnosau yn Nolgellau ac ym Mhlas Menai yng Nghaernarfon.

Maen nhw wedi llwyddo i gynnal dros 1,000 o deithiau seiclo eleni, gyda chefnogaeth wyth o wirfoddolwyr.

Image
Disgyblion Ysgol Hafod Lon
Disgyblion Ysgol Hafod Lon yn mwynhau eu sesiwn seiclo

Yn ôl Ms Weake, mae'r clwb yn hollbwysig i rieni a gofalwyr pobl gydag anableddau. 

"Mae gofalu am rywun gydag anabledd, boed yn anabledd corfforol neu'n anabledd dysgu - ac yn aml mae'n gyfuniad o'r ddau - yn swydd 24/7," meddai.

"Felly mae'n braf iawn gallu cynnig rhywbeth iddyn nhw y gallan nhw ei fwynhau, nad ydyn nhw'n gorfod trefnu eu hunain.

"Cwbl sydd angen iddyn nhw ei wneud ydi troi fyny, ac mae gennym ni'r hyn sydd ei angen arnyn nhw."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.