O Eisteddfodau i'r Fari Lwyd: Gwahoddiad i gofnodi traddodiadau Cymru
Mae cymunedau ar draws Cymru wedi cael eu gwahodd i gofnodi eu traddodiadau ar gyfer rhestr newydd o dreftadaeth fyw.
Bydd y rhestr Treftadaeth Fyw yn y DU gan UNESCO yn "tanio trafodaeth genedlaethol" am grefftau, arferion a dathliadau cymunedol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai bwriad y rhestr yw i helpu i ddiogelu traddodiadau'r wlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae treftadaeth fyw yn cynnwys arferion sy'n cael eu trosglwyddo drwy genedlaethau, gan gynnwys Eisteddfodau a'r Fari Lwyd.
Gallai treftadaeth fyw hefyd gynnwys traddodiadau a ddaeth i Gymru gan gymunedau mewnfudwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, bod cydnabod traddodiadau Cymru yn bwysig.
"Mae gan Gymru nifer fawr o draddodiadau ac arferion unigryw sy’n cyfrannu at wneud ein cenedl yn rhan unigryw a bendigedig o’r DU," meddai.
"Mae’n bwysig cydnabod a dathlu diwylliant anniriaethol, a byddwn yn annog cymunedau i ddod ymlaen gydag awgrymiadau i sicrhau bod yr arferion poblogaidd hyn yn parhau i gael eu trysori ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."
Dywedodd Gweinidog Treftadaeth y DU, y Farwnes Twycross, bod traddodiadau yn "creu tapestri cyfoethog o ddiwylliant".
"O Gorau’r Cymoedd Cymreig i ŵyl Elvis ym Mhorthcawl, mae’r traddodiadau hyn yn creu tapestri cyfoethog o ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig," meddai.
"Mae’r crefftau, arferion a dathliadau yma yn aml yn gwneud i bobl deimlo’n falch o bwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod a ble maen nhw’n byw."
Ychwanegodd: "Beth bynnag sy’n agos at galon cymunedau yng Nghymru, rydym eisiau clywed amdano.
"Rwy’n annog pobl i ddod at ei gilydd a rhannu eu traddodiadau drwy’r sgwrs genedlaethol hon."
Sut mae cymryd rhan?
Bydd y rhestr yn helpu i nodi gwerth economaidd traddodiadau a chefnogi ymdrechion i'w datblygu, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Gan y dylai treftadaeth fyw ond cael ei chydnabod gan y cymunedau sy’n ei harfer, dylai’r grwpiau yma gyfrannu at unrhyw gais.
Bydd gwefan Treftadaeth Fyw yn y DU yn derbyn ceisiadau dros y pedwar mis nesaf, gyda’r nod o lansio’r rhestr gyntaf yr haf nesaf.
Bydd ceisiadau yn cael eu derbyn o dan saith categori, sef: Mynegiadau llafar; celfyddydau perfformio; arferion cymdeithasol; natur, tir ac ysbrydolrwydd; crefftau; chwaraeon a gemau; ac arferion coginio.
Mae'n rhaid anfon ceisiadau ar gyfer y rhestr erbyn dydd Gwener, 27 Mawrth 2026.