Dyn 106 oed o Gwmbrân yn cael anrheg Nadoligaidd gan ei archfarchnad leol
Mae dyn 106 oed wedi cael anrheg Nadoligaidd gan staff yn ei archfarchnad leol.
Y gred yw mai Owen Filer yw'r dyn hynaf yng Nghymru, ac mae wedi siopa yn siop Asda Cwmbrân "bron bob dydd" ers iddi agor 24 mlynedd yn ôl.
I ddangos eu gwerthfawrogiad, mae staff yr archfarchnad wedi trefnu anrheg Nadolig cynnar i Mr Filer - sef troli yn llawn o'r pethau arferol y mae'n ei brynu, yn ogystal â rhai anrhegion Nadoligaidd.
Fe wasanaethodd Mr Filer gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig cyn mynd ymlaen weithio gyda'r Heddlu Milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ag yntau yn 106 oed, mae'n dweud mai "peidio tyfu'n hen" ydy'r gyfrinach.
Mae'n mynd i'r archfarchnad bob dydd heblaw am ddydd Sul "i brynu pethau bychain", ac mae'n dweud fod pawb yn yr archfarchnad yn ei adnabod.
"Mae pawb mor glên yn Asda, ac maen nhw i gyd yn gwybod fy enw," meddai.
"Dwi wastad yn cael sgwrs dda ac yn chwerthin gyda phawb, ac os ydw i angen cymorth gydag unrhyw beth, mae hynny wastad yn bosib."
Mae gan Mr Filer bedwar o blant, 10 o wyrion a 15 o or-wyrion.
Dywedodd rheolwr cwsmeriaid Asda, Cali Beale, fod pawb yn y siop wrth eu boddau yn gweld Mr Filer.
"Mae Mr Filer yn ŵr bonheddig ac mae'n bleser i'w gael yn ein siop," meddai.
"Mae o dal mor annibynnol ac mae wrth ei fodd yn dweud eu holl straeon wrthym ni, mae pob cydweithiwr yn y siop yn ei adnabod.
"Mae'n bleser ei groesawu i'r archfarchnad. Mae o'n ffantastig ar gyfer ei oedran."