'Sawl llwyddiant ac ambell her': Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu 70 mlynedd

'Sawl llwyddiant ac ambell her': Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu 70 mlynedd

Wrth ddathlu 70 mlynedd ers ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru mae rhai o unigolion blaenllaw yr undeb yn dweud fod eu gwaith dal i fod yn "hollbwysig" heddiw.

Ym mis Rhagfyr 1955 roedd 12 o ffermwyr wedi penderfynu ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru gan eu bod yn teimlo fod Llywodraeth y DU yn anwybyddu pryderon ffermwyr Cymru.

Syniad ffermwr o'r enw JB Evans oedd cynnal cyfarfod i ffurfio'r undeb newydd ac fe gafodd Ivor T Davies ei benodi'n Llywydd cyntaf yr undeb.

Ymhen ddwy flynedd roedd yr undeb wedi agor swyddfeydd yng Nghaernarfon, Llangefni, Aberystwyth a Dolgellau - ond ni chafodd ei chydnabod yn swyddogol tan 1978.

Yn y degawdau ers hynny mae'r dirwedd amaethyddol wedi newid llawer yng Nghymru, gyda heriau sylweddol a newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth yn arwain at gyrff gwahanol yn gwneud penderfyniadau dros Gymru.

Mae'r cyn-AS, Guto Bebb, sydd bellach yn Brif Weithredwr UAC yn dweud bod y 70 mlynedd diwethaf yn stori o "lwyddiant" er gwaethaf cyfnodau "cythryblus".

“Mae’n stori o lwyddiant fyswn i’n datgan," meddai wrth Newyddion S4C.

“Dwi’n credu bod y ffaith bod yr undeb yn cynrychioli amaethwyr o bob rhan o Gymru 70 mlynedd yn ddiweddarach yn golygu bod yr hyn oedd yn ddyhead gan y rhai ddaru sefydlu’r undeb wedi cael ei wireddu.

“Wrth gwrs, mae wedi bod yn gyfnod cythryblus.

“ ’Dan ni wedi ymuno efo’r Undeb Ewropeaidd, ‘da ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ma’ polisi amaeth wedi bod yn gyfrifoldeb i San Steffan, i Frwsel ac i Fae Caerdydd."

Image
Undeb Amaethwyr Cymru
Un o brotestiadau cynnar Undeb Amaethwyr Cymru

Ychwanegodd cyn-Lywydd yr undeb, Glyn Roberts o Gwm Eidda, bod heriau fel clwy'r traed a'r genau, arweiniodd at 1 miliwn o anifeiliaid yn cael eu difa yn 2001, a TB yn parhau yn broblem hyd heddiw yn dangos pam bod angen UAC.

“Dros y 70 mlynadd diwetha’ ma’r diwydiant wedi cael amball i her, a ma’n dangos bod angen Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn cael datrysiad i rheiny," meddai.

“Ar y dechra’ o’dd angen undeb amaethyddol annibynnol yng Nghymru, a mae hynny yr un mor wir heddiw.

“Ma’r undeb yn hollol bwysig am y reswm mai ein nod ni yw edrych ar ôl amaethwyr Cymru.

“ ‘Swn i’n meddwl bod nhw’n hollbwysig i amaethyddiaeth Cymru gan fod yr undeb hon sydd wedi edrych ar ôl y ffarm deuluol, a honni ‘di asgwrn cefn cymunedau cefn gwlad"

'Llais yn cael ei glywed'

Mewn digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos hon fe wnaeth Llywydd y Senedd, Elin Jones AS siarad am ei chysylltiad unigryw hi gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Ei hewythr Jac (JB Evans) oedd yr ysgrifennydd cyntaf yr undeb ac yn un o'r 12 ffermwyr wnaeth ffurfio UAC.

Dros y misoedd diwethaf mae'r undebau amaeth wedi dangos eu hanfodlonrwydd gyda Llywodraethau Cymru a'r DU dros gynlluniau ar gyfer ffermwyr.

Flwyddyn ddiwethaf fe gafodd sawl protest eu cynnal yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ac yn ddiweddar mae ffermwyr wedi protestio yn erbyn y dreth etifeddiaeth amaethyddol tu allan i Downing Street ac yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

Fel gwleidydd mae Elin Jones AS yn dweud ei bod yn "allweddol" bod undebau yn bodoli er mwyn gallu creu newid mewn polisïau.

“Mae Aelodau Senedd fel fi yn gwerthfawrogi’r drafodaeth uniongyrchol yna gyda chynrychiolwyr ffermwyr Cymru o’r ddwy undeb," meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae eu rôl nhw yn gwbl allweddol. Dyw pob penderfyniad ma’r Senedd neu gwleidyddion yn ei wneud ddim yn plesio pob ffarmwr yng Nghymru.

“Ond mae rhaid trwy’r amser i geisio ffeindio’r man lle ma’r mwyafrif o ffermwyr teuluol Cymru yn sicrhau bod eu llais nhw yn cael eu clywed.

“Ma’ lleisiau unigol wastad yn cael eu colli yn y byd yma felly ma’ cael llais sy’n cynrychioli mwyafrif trwch ffermwyr yng Nghymru yn hollbwysig.

“Mae’r 70 mlynedd diwethaf wedi sicrhau dyfodol llewyrchus, pwysig i’r fferm deuluol yng Nghymru, ac mae’n bwysig bod y 70 mlynedd nesaf yn cyflawni hynny."

Image
Elin Jones
Dywedodd Elin Jones iddi "gael fy magu ar straeon am hanes a heriau Undeb Amaethwyr Cymru."

Etholiad y Senedd 2026

Mewn chwe mis fe fydd pobl Cymru yn bwrw eu pleidlais yn etholiadau'r Senedd.

Mae'r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu ei bod yn debygol o fod yn ras rhy agos i ddarogan pa blaid fydd yn sicrhau'r nifer fwyaf o seddi.

Mae'n bosib felly y bydd llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd ym mis Mai, a chyfle i Undeb Amaethwyr Cymru gynnal trafodaethau gyda llywodraeth wahanol i'r un presennol.

Dywedodd Guto Bebb bod UAC eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda rhai o'r pleidiau i drafod pryderon yr undeb.

“ ‘Dan ni fel undeb yn anwleidyddol, ‘dan ni’n gweithio efo pob plaid ac unrhyw blaid," meddai.

“Yn naturiol ‘dan ni wedi bod yn cael cyfarfodydd eisoes gyda aelodau o Blaid Reform yn yr un un modd a ‘dan ni wastad yn cyfarfod efo’r pleidiau eraill i gyd.

“Be’ ‘dan ni’n dal i gobeithio i weld gan y llywodraeth yma ym Mae Caerdydd ydi bod nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd amaeth i economi cefn gwlad Cymru, i ddiwylliant cefn gwlad Cymru ac i ffordd o fyw yng nghefn gwlad Cymru.

“Yr hyn ‘dan ni isho gweld yw bod pwysigrwydd yn cael ei roid ar byd amaeth."

Image
Guto Bebb
Prif Weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb.

Hoffai Glyn Roberts, oedd yn Llywydd yr undeb rhwng 2015 a 2023, weld mwy o gymorth i'r sector amaeth.

Heb y gefnogaeth honno fe fydd diwylliant ac iaith cefn gwlad yn dioddef, meddai.

“Ma gynnon ni adnoddau arbennig yng nghyd-destun amaeth, y cig gorau yn y byd," dywedodd.

“Y peth dwi’n gobeithio fedrwn ni gael yw mwy o ewyllys gan y llywodraeth, pwy bynnag llywodraeth fydd mewn grym, bod mwy o gymorth i’r diwydiant amaeth.

“Ond nid yn unig i’r diwydiant amaeth ei hun. 

"Os ma’ cefn gwlad yn dibynnu ar amaethyddiaeth, ac os gollwn ni amaethyddiaeth o gefn gwlad a diboblogi cefn gwlad, ‘dan ni mynd i golli iaith a diwylliant a bob peth sy’n rhan ohona ni fel cenedl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.