'Carreg filltir': 20,000 o ferched yn chwarae pêl-droed yng Nghymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod dros 20,000 o ferched wedi eu cofrestru i chwarae pêl-droed yng Nghymru erbyn hyn.
Mae'r Gymdeithas yn disgrifio'r newyddion fel carreg filltir sy’n "nodi cyfnod eithriadol o dwf a momentwm cenedlaethol."
Y bwriad yn wreiddiol oedd cyrraedd y nod erbyn 2026 pan gafodd y targed ei osod fel rhan o strategaeth Ein Cymru yn 2021.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae cyfranogiad yn y gêm fenywaidd wedi tyfu 58% yn gyffredinol medd y Gymdeithas.
Mae pob grŵp oedran wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, gyda chynnydd arbennig o gryf ar draws y llwybr ieuenctid:
- Dan 14–Dan 17: Cynyddodd nifer y chwaraewyr o 2,332 i 4,279 - cynnydd o 83%
- Dan 6–Dan 13: Cynyddodd y niferoedd o 8,379 i 12,528 - cynnydd o 49% mewn merched ifanc sy’n cymryd rhan yn y gamp
- Pêl-droed oedolion: Cynyddodd cyfranogiad o 2,016 i 3,237 - twf o 61% yn y gêm menywod hŷn
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Bethan Woolley, Arweinydd Strategol y CBDC ar gyfer Pêl-droed Merched a Genethod:
“Mae cyrraedd 20,000 o ferched a genethod sy’n chwarae pêl-droed yng Nghymru yn nodi carreg filltir arwyddocaol i’r Gymdeithas.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae dyblu cyfranogiad wedi bod yn flaenoriaeth strategol sylfaenol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae mwy o fuddsoddiad yn y gêm wreiddiau wedi ein galluogi i greu mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen.
“Mae rhaglenni fel Huddle, BE.FC a Admiral Ready to Play wedi chwarae rôl allweddol wrth groesawu merched newydd i’r gamp.
"Fodd bynnag, ni fuasai’r cyflawniad hwn yn bosibl heb ymroddiad digyfaddawd ein gwirfoddolwyr mewn clybiau a chynghreiriau, y mae eu gwaith yn parhau i yrru twf pêl-droed merched a genethod ledled Cymru.”
Cyfnod 'arwyddocaol' i Gymru
Mae’r newyddion hyn yn cyrraedd yng nghanol un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes pêl-droed Cymru medd y Gymdeithas Bêl-droed.
Yn yr haf, fe gymhwysodd Cymru ar gyfer ei thwrnamaint mawr cyntaf erioed i fenywod, sef UEFA Women’s EURO 2025.
Wrth edrych ymlaen, mae’r CBDC – ochr yn ochr â Chymdeithasau Pêl-droed Lloegr, yr Alban ac Iwerddon – wedi cyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd Menywod FIFA 2035.
'Momentwm'
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr y CBDC: “Mae’r garreg filltir hon yn foment o falchder mawr i bêl-droed Cymru. Mae rhagori ar 20,000 o ferched a genethod sy’n chwarae’r gêm yn dangos y momentwm anhygoel sydd i’w weld ledled y wlad, o’n chwaraewyr ieuengaf mewn sesiynau Huddle i’n menywod hŷn sy’n cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd.
“Mae’r twf rydym yn ei weld yn ganlyniad i ymdrech aliniol – o ymrwymiad ein clybiau a’n gwirfoddolwyr, i’r buddsoddiad rydym wedi’i wneud mewn cyfleusterau gwreiddiau a rhaglenni cyfranogiad, i’r ysbrydoliaeth a ddarperir gan ein timau cenedlaethol.
"Mae cymhwyso Cymru ar gyfer UEFA Women’s EURO 2025 eisoes wedi newid y dirwedd, ac rydym yn gwybod y bydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o ferched i freuddwydio am chwarae dros eu gwlad."
Ychwanegodd: “Wrth inni edrych ymlaen, gan gynnwys ein cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd Menywod FIFA 2035, rydym yn benderfynol o adeiladu ar y foment hon. Mae ein huchelgais yn glir: gwneud pêl-droed yr un gamp fwyaf cynhwysol ac agored i fenywod a genethod yng Nghymru, a sicrhau nad yw’r llwybr o’r gwreiddiau i’r llwyfan rhyngwladol erioed wedi bod yn gryfach.”
Llun: CBDC