£140 miliwn i adnewyddu gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
Mae cynlluniau i ddechrau gwaith o adnewyddu gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog gwerth £140 miliwn wedi cael eu cymeradwyo.
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwelliannau'n cynnwys moderneiddio'r orsaf i gefnogi twf hirdymor yn nifer y teithwyr.
Fe fydd cyntedd mwy yn caniatáu cynyddu capasiti, gwelliannau i lif teithwyr drwy'r orsaf a gwelliannau o ran mynediad.
Fe fydd hygyrchedd gwell hefyd i rai ag anawsterau symud, ac fe fydd opsiynau manwerthu gwell hefyd yn ôl Trafnidiaeth Cymru.
Bydd yr orsaf yn aros ar agor tra bod y gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni.
Mae'r cynllun i wella'r orsaf yn cael ei arwain gan Trafnidiaeth Cymru, gyda buddsoddiad o hyd at £140 miliwn gan yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i’n cynlluniau uchelgeisiol i uwchraddio gorsaf Caerdydd Canolog, canolfan allweddol ar ein Metro yn Ne Cymru a phorth i brifddinas Cymru.
“Bydd y buddsoddiad ar y cyd o £140 miliwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn moderneiddio ac yn gwella’r orsaf, a fydd o fudd i deithwyr ac yn unol â’n huchelgeisiau ar gyfer twf hirdymor."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn gwella gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru gyda gorsafoedd newydd, trenau cyflymach a mwy o wasanaethau sy’n cysylltu pobl â’r swyddi â chyflog da rydyn ni’n eu creu ledled y wlad ac yn hybu ein twf economaidd.
“Mae ein cyfraniad at ariannu ailddatblygiad gorsaf Caerdydd Canolog yn rhan allweddol o’r rhaglen hon a bydd yn gweld gorsaf fwyaf Cymru yn cael ei thrawsnewid i wella profiad teithwyr drwy leddfu tagfeydd a gwneud yr orsaf yn fwy hygyrch.”
Fe wnaeth Arweinydd Cyngor Caerdydd hefyd groesawu'r newyddion.
"Mae gan Gaerdydd enw da fel lleoliad ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon fel Pencampwriaeth bêl-droed Euro sydd ar ddod yn 2028, a bydd gorsaf Caerdydd Canolog ar ei newydd wedd yn cynyddu ein capasiti ar gyfer hyn yn sylweddol," meddai'r Cynghorydd Huw Thomas.
