'Methiannau sylweddol' gan ddau fwrdd iechyd yn y de gyda rhestrau aros
Mae dau adroddiad newydd wedi datgelu fod "methiannau sylweddol' gan ddau fwrdd iechyd yn y de gyda'u dulliau o reoli rhestrau aros.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad ddydd Iau am fethiannau sylweddol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth reoli rhestrau aros am lawdriniaeth orthopedig.
Yn y ddau achos, mae'r adroddiadau yn nodi fod cleifion wedi cael eu tynnu oddi ar restrau aros yn amhriodol a heb iddynt gael gwybod, a hynny yn groes i Reolau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.
'Methiannau difrifol'
Mae'r adroddiad cyntaf yn canfod methiannau difrifol yn rheolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o restrau aros am lawdriniaeth ar y ben-glin.
Fe gwynodd Mr W ynglŷn â’r oedi wrth aros i gael llawdriniaeth i gael pen-glin newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac yntau wedi bod yn aros i’w chael ers Awst 2019.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a gafodd ei amser aros ei reoli'n briodol, yn benodol pan gafodd ei gloc amser aros ei ailosod ym mis Hydref 2023.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon ganfod fod cloc amser Mr W wedi ei ailosod yn amhriodol ym mis Hydref 2023, ac fe gadarnhaodd sgan ailadroddus a oedd yn ofynnol oherwydd yr amser yr oedd wedi aros ei fod yn addas ar gyfer llawdriniaeth.
Ni chafodd y penderfyniad i ailosod y cloc amser ei gyfleu i Mr W, a dim ond pan wnaeth gŵyn y daeth yn ymwybodol o hynny.
Fe wnaeth brofi poen yn sgil hyn, ac nid yw bellach yn gallu bwrw ymlaen â llawdriniaeth.
'Sioc enfawr'
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Roedd Mr W wedi gweld yn y cyfryngau fod y swyddfa hon wedi ymchwilio yn flaenorol i achosion lle cafodd cleifion eu trin yn annheg gan y Bwrdd Iechyd, a bod y Bwrdd Iechyd wedi addo na fyddai unrhyw glaf yn aros mwy na thair blynedd erbyn mis Mawrth 2024.
"Rhaid ei fod wedi bod yn sioc enfawr iddo ddysgu bod ei amser aros wedi'i gofnodi fel ychydig dros 60 wythnos, pan oedd yn ystyried ei fod wedi bod yn aros mwy na phum mlynedd."
Fe wnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac fe dderbyniodd y Bwrdd Iechyd bob un ohonynt.
Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Mr W a rhannu'r adroddiad gyda'r staff, a phenodi person annibynnol i ail-archwilio’r rhestr aros orthopedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Mae'n ddrwg iawn gennym am y methiannau a gafodd eu nodi ac am y gofid a achoswyd i'r claf. Fe gafodd nifer o argymhellion eu gwneud i'r Bwrdd Iechyd gan yr Ombwdsmon, sydd wedi cael eu derbyn yn llawn, ac fe fyddan nhw yn cael eu gweithredu o fewn yr amserlenni a gafodd eu nodi."
Adroddiad Dau
Yn yr ail adroddiad, fe wnaeth yr Ombwdsmon ganfod methiannau gweinyddol yn rheolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgan o restrau aros am lawdriniaeth clun.
Fe wnaeth y gwallau hyn achosi i glaf gael ei dynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth orthopedig ar ôl iddo eisoes fod yn aros am 19 mis yn ôl yr adroddiad.
Fe gwynodd Ms A am oedi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cyn rhoi llawdriniaeth ar y glun i’w thad, Mr B.
Fe gafodd Mr B wybod fod ei ofal wedi cael ei drosglwyddo i fwrdd iechyd cyfagos.
Ond wedi ymholiadau, daeth i'r amlwg nad oedd ar y rhestr aros am lawdriniaeth yn y naill fwrdd iechyd na’r llall.
Fe wnaeth ymchwiliad yr Ombwdsmon ystyried a oedd yr oedi cyn rhoi llawdriniaeth ar y glun i Mr B yn ganlyniad i resymau gweinyddol, yn hytrach na chlinigol.
Daeth i'r amlwg fod Mr B wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth orthopedig, a hynny heb iddo gael gwybod.
Nid yw'r rheswm dros hyn yn glir o gofnodion y Bwrdd Iechyd yn ôl yr adroddiad.
Ychwanegodd yr Ombwdsmon ei fod yn bryderus nad oedd Mr B wedi cael gwybod ei fod wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr.
'Poen sylweddol'
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Tynnwyd Mr B oddi ar y rhestr aros oherwydd gwallau gweinyddol gan y Bwrdd Iechyd, nid am unrhyw reswm clinigol wedi’i ddogfennu.
"Yn ystod y cyfnod hwn profodd boen sylweddol, ac ychwanegodd yr ansicrwydd ynghylch pa Fwrdd Iechyd oedd yn gyfrifol am ei ofal straen pellach iddo a gofid i'w ferch, a wyliodd ei thad yn aros heb eglurder na datrysiad.
"Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bryderon difrifol ynghylch sut mae rhestrau aros yn cael eu rheoli a sut mae amseroedd aros yn cael eu cofnodi a'u cyfleu gan y Bwrdd Iechyd.
"Mae'r anghysondeb wrth gofnodi data a'r diffyg tryloywder gyda chleifion yn annerbyniol ac yn tanseilio ymddiriedaeth yn y system."
Fe wnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac fe dderbyniodd y Bwrdd Iechyd bob un ohonynt.
Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Ms A a Mr B a rhoi iawndal i Mr B i adlewyrchu'r straen a achoswyd a'r boen ychwanegol a ddioddefodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn derbyn canfyddiadau'r Ombwdsmon ac yn cynnig ein hymddiheuriadau llawn i'r claf a'i deulu am y methiannau gweinyddol a gafodd eu hamlinellu yn yr adroddiad.
"Rydym yn cydnabod yn llawn yr effaith sylweddol y cafodd yr aros sylweddol yma am lawdriniaeth ar les y claf yn y cyfnod yma."
