Apêl yn codi dros £17,000 mewn tridiau i ail-adeiladu Clwb Athletau Penarth
Mae ymgyrch codi arian i ailadeiladu Clwb Athletau Penarth wedi cyrraedd dros £17,000 mewn tri diwrnod yn unig.
Fe gafodd yr adeilad, sydd yn gartref i Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, a Chlwb Hoci Menywod Penarth ei ddifrodi'n sylweddol nos Sul.
Ers hynny mae ymgyrch codi arian wedi cael ei chreu er mwyn ailadeiladu'r clwb a phrynu cyfarpar newydd a gafodd ei golli.
Cafodd sawl eitem werthfawr eu colli hefyd, gan gynnwys rhodd o ben anifail y Springbok a gafodd ei gyflwyno gan dîm rygbi'r Barbariaid wedi iddyn nhw guro De Affrica ym Mharc yr Arfau yn 1961.
Ar dudalen yr ymgyrch codi arian mae'r clwb yn dweud bod eu "calonnau wedi torri" ond nad ydyn nhw "am roi'r gorau" i ailadeiladu'r adeilad.
"Mae'r clwb wedi bod yn fwy na lleoliad i chwarae rygbi, criced a hoci, mae'n galon ein cymuned.
"Mae ein calonnau wedi torri, ond nid ydym yn rhoi'r gorau iddi.
"Rydym angen ein cymuned yn fwy nag erioed. Rydym yn codi arian i gychwyn ar waith adeiladu hanfodol, prynu cyfarpar newydd, cefnogi ein timoedd a chadw'r clwb i redeg."
‘Trasig’
Dros y dyddiau diwethaf mae clybiau eraill yn yr ardal wedi cydymdeimlo â’r clwb yn dilyn y tân.
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) a chlwb Rygbi Caerdydd wedi addo rhoi cymorth i'r clwb.
Dywedodd Geraint John, cyfarwyddwr cymunedol URC mai'r dasg gyntaf yw "cael chwaraewyr nôl ar y cae" gyda Chaerdydd yn cynnal gêm Penarth yn erbyn Llambed ddydd Sadwrn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth Clwb Rygbi’r Barri gynnig benthyg eu cyfleusterau i’r clwb dros dro.
“Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda chwaraewyr, pwyllgor ac aelodau Clwb Rygbi Penarth.
“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig oherwydd rydym yn gwybod bod hanes ein clybiau i’w gweld ar waliau ein clybiau a chartrefi.
"Mae Clwb Rygbi Penarth yn glwb sydd â hanes enfawr ac rydym yn gobeithio eu bod yn gallu ail-adeiladu ac adfer mor fuan â phosib.”