Y Bala: Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar

llanfor

Mae cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ger Y Bala yng Ngwynedd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerddwr a char ar yr A494 rhwng Llanfor a'r Bala am 23:40 nos Fercher.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Ychwanegodd yr heddlu bod y crwner wedi cael gwybod.

Fe gafodd y ffordd ei chau am sawl awr cyn iddi ail-agor fore Iau.

Diolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth iddyn nhw ddelio gyda'r gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn dweud bod yr ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.