Wcráin yn cyhuddo Putin o 'wastraffu amser y byd' wrth i drafodaethau barhau
Fe fydd trafodaethau i geisio dod â’r rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin i ben yn parhau yn Miami ddydd Iau, yn ôl y Tŷ Gwyn.
Bu llysgennad arbennig yr UDA, Steve Witkoff, a Jared Kushner, sy’n fab-yng-nghyfraith i Arlywydd America Donald Trump, yn Moscow ddydd Mawrth ar gyfer trafodaethau gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Yn ôl y Kremlin, nid oedd “unrhyw gyfaddawd” yn dilyn y trafodaethau.
Dywedodd Arlywydd America Donald Trump fod y trafodaethau wedi bod yn “gymharol dda”, ond ei fod yn rhy gynnar i ddweud beth fydd yn digwydd.
Fe gyhuddodd Gweinidog Tramor Wcráin, Andrii Sybihya, Putin o “wastraffu amser y byd”, gan apelio ar Rwsia i ddod â’r rhyfela i ben.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod Putin wirioneddol yn dymuno dod â’r rhyfel i ben yn dilyn y trafodaethau yn Moscow, atebodd Trump: “Mae [Putin] eisiau dod â’r rhyfel i ben. Dyna oedd eu hargraff nhw.”
Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi cadarnhau y bydd trafodaethau rhwng Wcráin ac America yn cael eu cynnal “yn y dyddiau nesaf”.
Ar ei gyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol X, fe ddywedodd: “Nawr, mae’r byd yn teimlo fel bod yna gyfle gwirioneddol i ddod â’r rhyfel i ben.”
Daw’r trafodaethau yn Miami yn dilyn dyddiau o gyfarfodydd rhwng arweinwyr Wcráin ac Ewrop, yn sgil pryderon fod y cytundeb heddwch cychwynnol yn cyd-fynd yn ormod â gofynion Rwsia.
Credir bod Wcráin a Rwsia yn parhau i anghytuno dros ddau brif bwynt: dyfodol y tiriogaeth sydd wedi’i meddiannu gan luoedd Rwsia, a gwarantau diogelwch i Wcráin.
Mae Kyiv ac arweinwyr Ewropeaidd yn credu mai drwy sicrhau aelodaeth Wcráin o NATO y byddai’r ffordd fwyaf effeithiol o atal Rwsia rhag ymosod eto yn y dyfodol.
Mae Rwsia yn gwrthwynebu’r cynnig yn chwyrn, gyda Trump hefyd yn awgrymu na fyddai’n ystyried caniatáu i Wcráin ymaelodi.
Dyma un o’r prif bwyntiau a gafodd eu trafod yn Moscow, yn ôl y Kremlin.
Fe ychwanegodd swyddog polisi tramor Rwsia, Yuri Ushakov, fod llwyddiannau diweddar gan luoedd Rwsia wedi cryfhau eu safle wrth gynnal y trafodaethau.