'Amheus': Adroddiadau bod menyw wedi'i 'gorfodi i mewn i gar' ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Y Pîl

Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl adroddiadau bod menyw wedi cael ei gorfodi i mewn i gar gan ddyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y fenyw, oedd yn gwisgo cot ‘puffa’ hir, dywyll, wedi ei gweld yn cael ei gorfodi i mewn i gar Seat Leon gwyn yn nhref Y Pîl, gan ddyn oedd yn gwisgo dillad tywyll a chap.

Aeth menyw arall i mewn i’r car, cyn iddo yrru i ffwrdd.

Mae’r llu yn credu ei fod wedi digwydd gerllaw Glwb Rygbi Y Pîl, pan oedd digwyddiad yn cael ei gynnal yno.

Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau yn yr ardal.

Mae’r llu yn apelio am dystion ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy’r rhif 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500383999.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.