Rachel Reeves yn 'hyderus' y bydd hi'n Ganghellor adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Rachel Reeves

Tra ar ymweliad â Chasnewydd, dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves ei bod yn "hollol hyderus" y bydd yn ei swydd adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Nododd hynny tra roedd hi yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru ddydd Llun. 

Dywedodd Ms Reeves ei bod yn 'falch' o’i chyllideb a gafodd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf gan wfftio amheuon am ei dyfodol fel Canghellor.

"Wnes i nodi mewn anerchiad ychydig wythnosau yn ôl mai fy nod ar gyfer y Gyllideb oedd i leihau rhestrau aros y GIG, lleihau costau byw a thorri’r ddyled a diffyg ariannol," meddai.  

"Rydym wedi cyflawni'r rhain i gyd,” ychwanegodd. 

Daw hyn ar ôl wythnos gythryblus i'r Canghellor wrth iddi wynebu honiadau ei bod wedi camarwain etholwyr ynghylch sefyllfa ariannol y Deyrnas Unedig.

Mynnodd bod ei chyllideb yn "rhoi’r cyfle gorau i wrthsefyll sefyllfa anwadal yr economi yn fyd-eang ar hyn o bryd."

Mae adroddiadau fod rhai aelodau Llafur yn cyhuddo’r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer a’r Canghellor o gamarwain y Cabinet.

Gofynnwyd i Ms Reeves yng Nghasnewydd a oedd hi wedi bod yn onest gyda’i chydweithwyr yn y Cabinet.

"Fyddech chi ddim yn disgwyl i’r Prif Weinidog a’r Canghellor fynd trwy’r holl ffigyrau manwl," meddai.

"Mae’r Cabinet yn cael ei briffio am ffigyrau’r Gyllideb ar fore cyhoeddi’r Gyllideb.”

Roedd Prif Weinidog Cymru yn siarad yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru hefyd.

Yn ôl Eluned Morgan, mae’r uwchgynhadledd yn brawf ei bod am weld yr economi yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru.

“Tyfu’r economi, gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, cael swyddi o safon iddynt allu talu eu biliau – dyna fy mlaenoriaeth” meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth gynulleidfa’r uwchgynhadledd fod y digwyddiad y llynedd wedi denu £16 biliwn o fuddsoddiad i Gymru.

Ychwanegodd, “Dyma wlad sy’n adeiladu – yn amyneddgar, yn gyson, o ddifrif”

Dywedodd Luke Fletcher AS, llefarydd Plaid Cymru dros yr economi ei bod yn bwysig i'r Senedd graffu ar unrhyw gytundebau yn yr uwchgynhadledd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo'r uwchgynhadledd fel modd o greu swyddi a hybu'r economi - ond mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd cywir pan ddaw hi i ddatblygiad economaidd," meddai.  

"Mae hynny'n golygu gwella cefnogaeth y llywodraeth ar gyfer busnesau Cymreig hefyd," meddai.  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.