‘Fydden i ddim yn dod yma heddiw’: Dinasyddion yr UE 'yn wynebu colli eu hawliau'
Mae un dyn a symudodd i Gymru o Bortiwgal 20 mlynedd yn ôl wedi dweud na fyddai yn gwneud hynny eto heddiw oherwydd bod y broses yn rhy gymhleth.
Daw sylwadau Tony Fernandes Da Silva sy’n rhedeg caffi yng Nglyn Ebwy wrth i adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd ddweud bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu colli eu hawliau.
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn rhybuddio y gallai dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru golli eu hawliau oherwydd heriau wrth gael mynediad at waith, tai, budd-daliadau ac addysg.
Roedd hynny oherwydd "cymhlethdod" Cynllun Aneddiadau'r UE (SSE), y system y mae’n rhaid i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ei defnyddio i aros yn y DU yn sgil Brexit.
'Cymhleth iawn'
Mewn cyfweliad ag ITV Cymru Wales, dywedodd Tony Fernandes Da Silva nad oedd y system yn helpu pobl sydd "eisiau gweithio, fel fi."
"Mae'n gymhleth iawn," meddai. "Y llynedd, fe wnes i geisio gwneud cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig - ond mae mor anodd, mae gennych chi hyd yn oed bobl Brydeinig sydd ddim yn gwybod yr atebion."
Mae adroddiad pwyllgor y Senedd yn nodi bod newidiadau cyson a phrosesau digidol yn unig o fewn y system fewnfudo yn creu rhwystrau.
Dywedodd Mr Da Silva ei fod wedi gweld hynny ei hun: "Mae popeth ar-lein.
“Dydw i ddim y mwyaf clyfar ond gallaf ei wneud. Mae eraill yn mynd ar goll. Gall rywun fod yn dda iawn gyda’i ddwylo ond ar goll wrth ddefnyddio technoleg.
"Y ffordd y mae pethau’n mynd, maen nhw'n cael eu cosbi heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain."
Ychwanegodd: "Mae dogfennau yn eithaf cymhleth, fyddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod sut i’w defnyddio fy hun.
“Rydw i wedi bod yma am 24 mlynedd, wedi cael caniatâd amhenodol i aros, ac ni fyddwn yn gwybod sut i arwain rhywun i ddweud mai dyna'r peth iawn sydd angen i chi ei wneud er mwyn cael y ddogfennaeth gywir. Mae'n ddryslyd.”
Dywedodd llefarydd o’r Swyddfa Gartref fod y cynllun wedi “caniatáu i filiynau o ddinasyddion yr UE ac aelodau cymwys o’u teuluoedd i barhau i fyw a gweithio yn y DU ar ôl Brexit.”
