Elfyn Evans yn ceisio cipio teitl Pencampwr Ralio'r Byd

Elfyn Evans 2024

Bydd rali olaf y tymor yn digwydd yn ddiweddarach wrth i Elfyn Evans geisio cipio teitl Pencampwr Ralio'r Byd.

Mae'r Cymro 36 oed yn cychwyn y rali gyda mantais o dri phwynt.

Bydd y Rali Saudia Arabia yn cychwyn ddydd Mercher ac yn para pum niwrnod.

Y Ffrancwr Sébastien Ogier sydd yn yr ail safle.

Y digwyddiad newydd hwn yw'r un olaf o'r 14 ras yn y tymor.  

Os bydd Elfyn Evans yn llwyddo i ddod i'r brig fo fydd y trydydd person o Brydain i gipio teitl Pencampwr Ralio'r Byd. Fe gafodd Colin McRae y wobr yn 1995 a'r Sais Richard Burns y teitl yn 2001.  

Ond mae rhai yn ffafrio Ogier sydd wedi dewis peidio cystadlu ym mhob rali. Fe benderfynodd beidio cystadlu mewn tair rali ac mae wedi ennill 6 o'r 10 mae wedi cystadlu ynddynt. Mae hefyd wedi ennill y bencampwriaeth wyth gwaith yn y gorffennol. 

'Ffordd bell i fynd' 

Er hynny Evans a'i gyd yrrwr Scott Martin sydd wedi arwain rhan fwyaf o dymor 2025. Mae'r gŵr o Ddolgellau wedi cyrraedd yr ail safle bedair gwaith o'r blaen. 

Wrth siarad cyn dechrau'r ras dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn "edrych ymlaen" at y rali.

"Ond mae 'na ffordd bell i fynd cyn diwedd y penwythnos yma. Mae'n edrych yn rough ofnadwy allan yna. Rhaid i ni jest neud ein gorau a gweld be ddeith."

Dywedodd bod y ffyrdd yn "ofnadwy o demanding" gyda cherrig ar yr ochrau rownd bob cornel.

"Does dim lle i neud unrhyw gamgymeriadau," meddai.

Yn ôl Elfyn Evans dydy o ddim yn teimlo yn "hyderus" y gall ennill y bencampwriaeth ar hyn o bryd.

"Dwi'n meddwl alle fe fynd unrhyw ffordd yn edrych ar yr amodau sydd gennon ni. Fydd rhaid i ni neud be fedrwn ni a beth bynnag fydd fydd." 
 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.