Cynhyrchu cerbyd trydan tebyg i fan eiconig o'r 50au
Bydd cerbyd trydan yn cael ei gynhyrchu ym Mro Morgannwg yn seiliedig ar fan eiconig a oedd yn boblogaidd yng Nghymru yn yr 1950au.
Gan greu tua 150 0 swyddi, bydd Morris Commercial Ltd yn sefydlu canolfan gynhyrchu ym Mro Tathan, Y Barri er mwyn creu cerbyd sy'n debyg i'r Morris JE.
Roedd y fan glasurol yn boblogaidd ar un adeg ar ffyrdd y Deyrnas Unedig a bydd y fersiwn drydan yn cadw nifer o nodweddion y fan wreiddiol.
Bydd gan y Morris JE newydd ystod o 250 milltir, yn ôl y gwneuthurwyr.
Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu canolfan weithgynhyrchu gyntaf Cymru ar gyfer cerbydau trydan.
Bydd Morris Commercial yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol gan Gyllid Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru i sefydlu'r cyfleuster.
Y disgwyl yw y caiff y fenter ei lansio'n llawn ddiwedd 2026.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:"Gyda'n tirwedd arloesol a'n cefnogaeth ar gyfer cysyniadau carbon isel, mae Cymru'n gartref naturiol i Morris JE.
"Bydd y prosiect cyffrous hwn yn elwa o'r sector modurol a'r clwstwr cadwyn cyflenwi cadarn yr ydym yn ei ddatblygu yma yng Nghymru.
"Bydd swyddi â chyflog da hefyd yn cael eu creu ar gyfer gweithwyr medrus wrth i'r cwmni gyflwyno'r fan retro hanesyddol hon i oes y cerbyd trydan."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Morris Commercial, Dr Qu Li: "Rydym yn gyffrous i gael ein canolfan gynhyrchu y Morris JE ar raddfa fawr ym Mro Tathan yn fuan. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau dosbarthu cerbydau i gwsmeriaid sydd wedi aros am amser hir."