'Criw o wylwyr gwahanol' yn nabod John Pierce Jones wedi hysbyseb Nadolig
Mae bod yn rhan o hysbyseb teledu Nadolig wedi golygu bod John Pierce Jones wedi cael "criw o wylwyr gwahanol sydd yn fy adnabod i".
Mae'r actor yn chwarae rhan taid yn hysbyseb teledu Tesco.
Cyfres o hysbysebion yw'r rhain sydd yn rhoi ciplun o olygfeydd teuluoedd ar draws Prydain.
"Mae'r hysbysebion Nadolig ma fel pantomeim mewn ffordd, mae yn rhan o fywyd adloniannol Nadolig," meddai John Pierce Jones wrth Heno.
Yn yr hysbyseb y mae John Pierce Jones a'r actores Lois Elenid yn actio ynddi mae 'na ffrae deuluol wedi bod a thensiwn wedi hynny.
"Dwi'n actio hen daid blin sydd yn ceisio rheoli pawb ac yn difetha'r Nadolig!" meddai.
Golygfeydd sydd yn gyfarwydd i ni gyd yw'r rhain meddai'r actores Lois Elenid oedd yn arfer chwarae'r cymeriad Tammy yn y gyfres Rownd a Rownd.
"Typical golygfeydd petha' sy'n digwydd dros 'Dolig, pobl yn ffraeo a petha' yn mynd yn wrong a mae o'n digwydd bob blwyddyn," meddai.
Yn ôl John Pierce Jones mae gwneud yr hysbyseb wedi golygu ei fod o wedi cael pobl yn stopio i siarad efo fo.
"Be sy 'di bod yn dda ydy dwi di bod ar ffilmiau, C'mon Midffîld a rhywbeth felly, 'da ni di bod yn neud petha' Nadoligaidd sydd wedi bod yno fo.
"Ond ma hwn yn dod a criw o wylwyr gwahanol sydd yn fy adnabod i.
"Ma' pobl ar y stryd lle dwi'n aros yma yn Gaerdydd, ma' pawb yn fy nabod i, 'Haia i so you last night,' sy'n beth gwahanol iawn iawn, 'How's Tesco going?' "
I Lois Elenid mae actio yn yr hysbyseb wedi gwneud iddi ddeall pa mor bwysig yw hysbysebion Nadolig i nifer.
"Dwi'n meddwl o'n i heb sylweddoli bod pobl yn edrych ymlaen ac yn aros i weld hysbysebion 'Dolig," meddai.
"Mae'n neis gweld bod pobl yn joio nhw."
Llun: Hysbyseb Nadolig Tesco
