Nigel Farage yn 'anonest' wrth sôn am hiliaeth
Mae dyn oedd yn gyn ddisgybl gyda Nigel Farage yn dweud bod arweinydd Reform yn bod yn "anonest".
Mae'n dweud hyn yng nghyd destun yr honiadau gan gyn ddisgyblion Farage yng ngholeg Dulwich bod nhw wedi gweld hiliaeth gan y gwleidydd.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC mae Peter Ettedgui, sy'n Iddew 61 oed yn dweud bod Farage wedi dweud wrtho sawl gwaith bod "Hitler yn gywir" a "rhowch nhw yn y siambr nwy" pan oedden nhw yn eu harddegau.
Ddydd Llun fe ddywedodd Nigel Farage nad oedd o "erioed wedi cam-drin yn hiliol unrhyw un yn uniongyrchol". Fe ddaeth ei sylwadau ar ôl i The Guardian gyhoeddi erthygl ynglŷn â honiadau gan gyn ddisgyblion yng Ngholeg Dulwich, Llundain.
Mae'r BBC wedi siarad gyda dau gyn ddisgybl yn y coleg sydd yn cefnogi fersiwn Mr Ettedgui o'r hyn ddigwyddodd.
Mae'n dweud fod yr honiad gan Farage nad ydy o yn dweud y gwir wedi ei adael yn teimlo yn "flin iawn".
'Despret'
Mae Farage wedi dweud wrth GB News ei fod yn "gwadu yn llwyr ddweud y pethau hyn, wrth yr un unigolyn yma. I siarad yn blaen mae'r ffaith fod y Guardian a'r BBC yn mynd yn ôl bron i hanner canrif a chyhoeddi'r stwff yma yn dangos pa mor despret ydyn nhw."
Mewn cyfweliad blaenorol gyda'r BBC fe ddywedodd Farage ei bod hi'n debygol ei fod wedi "cam ddweud yn fy mywyd, yn fy nyddiau cynnar, pan oeddwn i yn blentyn."
Ond roedd yn mynnu nad oedd wedi "cam-drin yn hiliol yn uniongyrchol" unrhyw un.
Pan ofynnwyd iddo yn y cyfweliad os oedd yr unigolion sydd wedi gwneud yr honiadau yn dweud y gwir dywedodd bod yna "elfen wleidyddol gref fan hyn". Fe ofynnwyd y cwestiwn iddo eto os oedden nhw yn dweud y gwir a dywedodd, "Na dydyn nhw ddim yn dweud y gwir".
Mae Mr Ettedgui wedi dweud bod y gwadu gan Farage wedi ei frifo.
"Mae hwn yn ddyn sydd gyda phŵer, a dylanwad, sydd gydag effaith fawr ar gyfeiriad y mae'r wlad yma yn mynd. Dwi'n codi fy het iddo.
Ac mae yn y bôn yn bod yn anonest ym mhopeth mae'n dweud fan hyn. Felly dwi'n teimlo yn siomedig ac yn flin am hynny," meddai wrth y BBC.
Atgofion ysgol clir
Mae Mr Ettedgui yn un o fwy na dwsin o gyn ddisgyblion yng Ngholeg Dulwich o'r 70au hwyr a'r 80au cynnar sydd wedi honni bod Farage wedi bod yn hiliol.
Yn ôl Mr Ettedgui mae'n cofio camdriniaeth gwrth- semitig yn cael ei gyfeirio ato fo.
"Un o fy atgofion mwyaf clir o fy nghyfnod yn yr ysgol yw Farage yn dod atai yn gyson, gan wybod mod i yn Iddew, a dweud roedd Hitler yn gywir a 'rhowch nhw yn y siambr nhw'. Mi oedd hynny yn cael ei ddilyn yn gyson gan sŵn 'ssss', yn efelychu sŵn nwy yn dianc."
Dywedodd fod geiriau Farage wedi "effeithio yn ddrwg" arno am fod eu deidiau a'u neiniau wedi dianc o'r Almaen pan oedd y Natsïaid yn rheoli a bod llawer o'r teulu wedi eu lladd yn yr Holocost.
Mae rhai cyn ddisgyblion wedi dweud wrth y BBC nad ydyn nhw yn adnabod y ddelwedd sydd wedi ei greu o Farage neu'r honiadau o hiliaeth yn ei erbyn. Ond mae eraill wedi cefnogi atgofion Petter Ettedgui.