Beth fydd yn y Gyllideb i Gymru?
Wedi dyfalu sylweddol am ba drethi fydd yn codi, fe fydd Rachel Reeves yn cyflwyno ei Chyllideb ddydd Mercher.
Bydd penderfyniadau'r Canghellor yn effeithio ar bob un ohonom gyda disgwyl newidiadau i drethi, budd-daliadau a thaliadau pensiwn.
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan yn awyddus i weld a fydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i Gymru.
Bydd ganddi sicrwydd wedyn o faint o arian fydd ar gael iddi ar gyfer ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio derbyn rhan o £2.5 biliwn gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant dur, yn enwedig ar ôl i Lywodraeth y DU gamu i mewn ac achub gwaith dur Scunthorpe.
Mae'n annhebygol y bydd unrhyw newid ar brosiect dadleuol rheilffordd HS2 yn Lloegr.
Mae HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol yng Nghymru oherwydd iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond mae dadleuon nad oes budd i Gymru o'r cynllun.
Mae rhai elfennau o'r gyllideb eisoes wedi eu datgelu.
Beth ydyn ni yn gwybod yn barod?
Nos Fawrth cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd y cyflog byw cenedlaethol yn codi.
O fis Ebrill, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu 4.1% i £12.71 yr awr, ar gyfer gweithwyr cymwys sy'n 21 oed a throsodd.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd cyflog blynyddol gweithiwr llawn amser yn cynyddu £900.
Bydd y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y rhai rhwng 18 ac 20 oed yn cynyddu 8.5% i £10.85 yr awr
Mae hynny'n golygu y bydd cyflog blynyddol gweithiwr llawn amser yn cynyddu £1,500, medd y llywodraeth.
Bydd y gyfradd Isafswm Cyflog ar gyfer bobl ifanc 16 ac 17 oed, a'r rhai sydd ar gyrsiau prentisiaeth yn cynyddu 6% i £8 yr awr.
Wrth i'r Canghellor geisio llenwi'r twll yn y pwrs cyhoeddus, dyma'r hyn all fod ar y gweill gan y Canghellor ddydd Mercher:
Treth incwm: Cafodd Ms Reeves gynhadledd i'r wasg a'r bwriad oedd paratoi'r wlad ar gyfer cynnydd mewn treth incwm. Byddai hyn wedi mynd yn groes i faniffesto ei phlaid. Ond rhoddodd Ms Reeves y gorau i'r syniad yn ddiweddarach. O fod wedi gwneud hynny, hi fyddai wedi bod y Canghellor cyntaf mewn hanner canrif i gymryd y cam yma.
Fe benderfynodd hepgor y syniad ar ôl i'r Trysorlys dderbyn rhagolygon gan y corff gwarchod cyllidebol nad oedd y sefyllfa mor ddifrifol ag yr ofnwyd yn wreiddiol.
Yn lle hynny, fe allai hi nawr ddewis ymestyn rhewi'r trothwy treth incwm a fyddai, pe bai hi hefyd yn cadw trothwyon yswiriant gwladol ar eu cyfradd bresennol, yn codi tua £8.3 biliwn y flwyddyn i'r Trysorlys erbyn 2029/30.
Cap ar fudd-daliadau dau blentyn: Mae disgwyl i Ms Reeves ddileu’r terfyn sy’n cyfyngu credyd treth plant a chredyd cyffredinol i’r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o gartrefi.
Mae amcangyfrifon yn amrywio o ran faint fyddai hyn yn ei gostio, gyda’r Resolution Foundation yn darogan tua £3.5 biliwn erbyn diwedd y Senedd hon (2029/30). £3 biliwn yw'r ffigwr gan y Child Poverty Action Group a Sefydliad Joseph Rowntree.
Codi treth ar gartrefi mwyaf gwerthfawr: Fe allai treth newydd ddod i rym ar rai o'r cartrefi mwyaf gwerthfawr. Mae wedi cael ei ddisgrifio gan rai fel y "dreth ar blastai".
Byddai'r cam yn golygu ailbrisio rhai o'r tai mwyaf gwerthfawr ar draws bandiau treth y cyngor F, G a H. Byddai'r trothwy yn dechrau ar £2 filiwn.
'Aberth cyflog': Gallai'r Canghellor gyflwyno terfynau ar faint y gall gweithwyr ei roi yn eu pensiynau o dan gynlluniau aberthu cyflog cyn iddo ddod yn destun yswiriant gwladol.
Mae adroddiadau'n awgrymu y gallai Ms Reeves osod cap o £2,000 y flwyddyn, a fyddai'n lleihau faint y mae pobl yn ei roi yn eu potiau pensiwn. Byddai hefyd yn ergyd i gyflog net y rhai sy'n defnyddio'r cynllun i aros mewn band treth is.
Treth ar gerbydau trydan: Y gred yw bod y Canghellor yn ystyried treth o 3c y filltir ar gerbydau trydan
Cymorth i brynwyr cerbydau trydan: Mae disgwyl iddi ychwanegu £1.3 biliwn at grant sy’n gostwng pris cerbyd trydan hyd at £3,750. Mae hyn yn rhan o becyn a fydd hefyd yn gweld £200 miliwn yn mynd tuag at gyflwyno pwyntiau gwefru.
Llun: Justin Tallis/PA Wire
