'Gwirfoddolwyr yn talu am lety i'r digartref'
'Gwirfoddolwyr yn talu am lety i'r digartref'
“You've got until Monday now.:
Ers wythnos, mae Tina Potter yn diolch i weithwyr Barc, Pen-y-bont.
A hynny am ei bwydo a rhoi to uwch ei phen.
Yn 65 oed, mae'n dweud iddi ddioddef ymosodiad rhywiol yr haf yma tra'n cysgu mewn pabell.
Aeth hi mewn i hostel ond cael ei thwlu mas ar ol digwyddiad.
"I threw something at her and it missed and smashed Ty Ogwr window.
"Oh, my God, I thought I'm in for it now.
"I went to the council and this is why they evicted me from there.
"It was for somebody picking on me for money."
Did anything else happen?
Did you assault someone physically?
Did you verbally threaten anybody?
"No, no, nobody."
Yn ol Barc, mae eu staff 'di gorfod talu o'u pocedi eu hunain am lety i dair menyw bregus
dros y mis diwethaf.
Sefyllfa annerbyniol, medden nhw ac maen nhw'n galw am faddeuant a chyfle arall i Tina Potter.
"Mae Tina yn vulnerable ond efallai bod hi'n anodd weithiau.
"Mae'n rhaid i'r cyngor rhoinail gyfle iddi."
The council will say they have a duty of care to staff at a hostel and to other people living there.
If they felt Tina's or anyne else's behaviour was volatile and putting them in some sort of danger, they don't have an option.
"I think there would be other options such as sheltered accommodation or supported living.
"There are options for an old aged pensioner who might be volatile but doesn't seem to present a high physical risk to anybody."
Mae Cyngor Pen-y-bont methu trafod manylion yr achos cymhleth yma.
Ddywedon nhw mai dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol maen nhw'n gofyn i unigolion adael llety dros dro.
Maent yn cysylltu a phartneriaid i ddod o hyd i gefnogaeth amgen.
"Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ein llety i'r digartref yn le diogel i bawb ac ry'n ni'n cymryd hynny o ddifri, medden nhw.
Yn ol yr Aelod Senedd lleol, dylai'r awdurdod lleol y Llywodraeth ac asiantaethau eraill weithio i ddarparu llety addas i bobl fel Tina.
"Mae'n sefyllfa hollol warthus achos mae rhywun fan hyn sy'n fregus efallai'n wynebu'r siawns o fod ar y stryd yn ystod y gaeaf.
"Mae'r ffaith wedyn bod angen i weithwyr elusen mynd i'w pocedi i sicrhau bod hwnna ddim yn digwydd yn dangos bod y system ddim yn gweithio ar y foment."
Mae Cyngor Pen-y-bont wedi ysgrifennu at Tina i ddweud nad oes gyda nhw gyfrifoldeb bellach i ddarparu llety iddi.
Mae rhoddion staff a chefnogwyr Barc yn cadw to uwch ei phen am nawr.
"Grateful. Really grateful. I am. "I'm glad.
"I'm glad I've got these people around.
"Without these people, I'd be lost on the streets, starving."
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw am roi'r diwedd i ddigartrefedd.
Do'n nhw ddim am gynnig sylw i'r adroddiad hwn.
Mae achos Tina yn tanlinellu pa mor anodd fydd hi i wireddu eu nod.