Apêl 'frys' i ddod o hyd i ddyn 28 oed o Lanelli aeth ar goll ym Mryste
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi apêl 'frys' wrth chwilio am ddyn 28 oed o Lanelli a gafodd ei weld ym Mryste yn ystod oriau man y bore ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod Rehaan wedi ei weld toc wedi 01.00 yng nghanol dinas Bryste ger adeilad yr Arnolfini, sef canolfan gelf.
Roedd Rehaan allan gyda'i ffrindiau.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn cyhyrog pum troedfedd 11 modfedd gyda gwallt tywyll byr, barf dywyll a mwstas.
Roedd yn gwisgo top du Levis, trywsus llwyd cargo a siwmper glas tywyll.
Mae ganddo gysylltiadau gyda Llanelli ac Abertawe meddai'r llu.
Mae'r heddlu yn dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu trwy ffonio 999 gan roi'r rhif cyfeirnod 5225329153 neu ffonio 101.
Llun: Heddlu Avon a Gwlad yr Haf
