Cipolwg ar gemau nos Wener yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD

TNS Cwpan Cymru 2025

Bydd y ddau dîm diwethaf i ennill Cwpan Cymru JD, Y Seintiau Newydd a Chei Connah, ymysg y timau fydd yn gobeithio parhau a'u rhediad yn y gystadleuaeth nos Wener.

Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.

Bydd naw o glybiau’r uwch gynghrair yn cymryd rhan, yn ogystal â 14 o dimau’r ail haen, saith o’r drydedd haen, Port Talbot o’r bedwaredd haen, a’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Glyn-nedd o’r bumed haen.

Bydd y cyffro’n cychwyn nos Wener pan fydd deiliaid Cwpan Cymru JD, Y Seintiau Newydd yn ceisio gyrru Met Caerdydd allan o’r gystadleuaeth am y trydydd tymor yn olynol.

Enillodd Met Caerdydd o 3-2 oddi cartref yn erbyn y Seintiau yn gynharach y mis hwn mewn gêm gynghrair, ond bydd Craig Harrison yn benderfynol o ddial ar y myfyrwyr nos Wener.

Yn yr unig ornest arall rhwng dau o dimau’r uwch gynghrair bydd y tîm sydd ar waelod y tabl, Llanelli yn croesawu’r Barri i Barc Stebonheath – dau glwb sydd wedi cael eu dwylo ar y cwpan yn ystod y ganrif hon.

Mae Cei Connah wedi codi’r cwpan ddwywaith yn y 10 mlynedd diwethaf, ac mi fyddan nhw’n gobeithio osgoi sioc oddi cartref yn erbyn un o glybiau cryfaf yr ail haen, Llandudno.

Llwyddodd Pen-y-bont i gyrraedd y rownd derfynol yn 2021/22 cyn colli’n erbyn y Seintiau, a bydd tîm Rhys Griffiths yn awyddus i fynd gam ymhellach eleni, ond bydd rhaid iddynt hwythau guro gwrthwynebwyr cadarn o’r ail haen nos Wener, sef Cambrian United.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.