Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch ifanc yng Nghefn Fforest
Fe fydd dyn ifanc sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 17 oed yn wynebu achos llys fis Mai nesaf.
Fe wnaeth Cameron Cheng, 18 oed, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth wedi’i gyhuddo o ladd Lainie Williams.
Mae Cheng, o Drecelyn, hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio Rhian Stephens, 38 oed, a bod â chyllell yn ei feddiant.
Fe wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo o’r carchar, gan gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni yn ystod y gwrandawiad.
Gosododd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddyddiad yr achos llys ar gyfer 11 Mai 2026 gydag amcangyfrif o bythefnos i dair wythnos ar gyfer hyd yr achos.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â digwyddiad honedig yn Wheatley Place, Cefn Fforest, Gwent, ar 13 Tachwedd ar ôl i’r heddlu ymateb i adroddiadau bod dau berson wedi’u hanafu.
