ASau Llafur yn creu helynt am arweinyddiaeth y blaid yn y wasg
ASau Llafur yn creu helynt am arweinyddiaeth y blaid yn y wasg
Mae'n wythnos anarferol o dawel yn y penawdau i'r Prif Weinidog.
Ond wrth gamu mas ar gyfer ei sesiwn gwestiynau wythnosol...
"Is the Health Secretary a traitor or a faithful, Prime Minister?"
Ffrwydrad o gwestiynau wedi briffio dros nos gan gyfeillion yn honni cynllwyn yn ei erbyn.
A'r Ceidwadwyr yn honni bod ei dim yn gyfrifol o danseilio ei Gabinet.
"Last night, his allies accused the Health Secretary, Home Secretary and even the Energy Secretary of launching leadership bids.
"These attacks came from Number 10, nowhere else. His toxic Number 10.
"The person responsible for the culture in Number 10 is his Chief of Staff, Morgan McSweeney.
"Does the Prime Minister have full confidence in him?"
"Morgan McSweeney, my team and I are focused on delivering for the country.
"Of course, Mr Speaker, I've never authorised attacks on members.
"I appointed them as they are the best people to do their jobs."
Gwadu'r honiadau o gynllwyn a brad yn eu herbyn mae'r tri sy'n cael eu cyhuddo.
Mae wedi codi cwestiynau o'r newydd am wendidau'r Prif Weinidog pa mor ddoeth oedd ei gefnogwyr am godi bwganod?
"Mae 'na ffasiwn beth, os oes tensiynau rhwng pobl mae 'na ffasiwn beth a chlirio'r awyr.
"Dyna beth mae Keir Starmer yn gobeithio gwneud nawr.
"Mae'n dweud wrth y bobl sy'n gwrthryfela os ydyn nhw'n symud yn ei erbyn, bydd e'n gwthio 'nol.
"Mae'n rhybuddio yn hytrach nag aros i'r llofrudd ddod fel y traitors yng nghanol nos i roi'r cyllell yn ei gefn."
Does dim amheuaeth bod heriau ar y gorwel i Keir Starmer.
Mater bach o Gyllideb ymhen pythefnos.
Dyw'r rheiny byth yn boblogaidd ar y gorau heb son am etholiadau mis Mai yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.
Mae digon tu fewn i Lafur yn poeni bod Keir Starmer yn gyrru'r blaid i'r cyfeiriad anghywir.
"Beth yw pwrpas y blaid? Ife jyst aros mewn grym?
"Mae'n gorfod fod yn fwy na jyst cael ei hethol eto.
"Maen nhw'n gorfod gwneud newidiadau sylweddol.
"Rhaid dangos bod hynny ar y gorwel."
Beth bynnag rhesymeg y rheiny o gwmpas y Prif Weinidog am weithredu neithiwr doedd e'n sicr ddim yn le cyfforddus i Keir Starmer fod yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn' ma.
Cafodd groeso cynnes i'r Rhyl gan Aelod Llafur Gogledd Clwyd.
"Join me for a stroll on our new promenade to see what Rhyl has to offer."
"That's an appealing invitation at the moment!"
"Mae'r blaid newydd gael is-etholiad anodd yng Nghaerffili.
"Mae'r Gyllideb ar y gweill.
"Hefyd, mae etholiadau yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr mis Mai nesaf.
"Dyw awyrgylch ddim yn mynd i wella.
"Efallai bod e wedi prynu amser nawr ond sa i'n credu bydd yr wrthwynebiad yn mynd i ffwrdd."
Mynnu bod y Cabinet yn unedig wnaeth Keir Starmer heddiw.
Ond go brin bydd hynny'n dod a diwedd i'r crwydro cyfrwys, y cylchu cynllwyngar o gwmpas Rhif 10.
