Arweinydd Cyngor Gwynedd: 'Hyd at ddegawd i adennill ffydd'

Arweinydd Cyngor Gwynedd: 'Hyd at ddegawd i adennill ffydd'

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro ac wedi addo fynd i'r afael a phob argymhelliad.

Mae'r arweinydd yn barod i lywio'r cwbl yn wyneb un o'r stormydd mwyaf hanes yr awdurdod.

"Mae ffydd, ymddiriaeth mewn Cyngor Gwynedd yn sero rwan neu minus.

"Mae'n mynd i gymryd amser i adeiladu bric wrth fric.

"Mae'n mynd i gymryd degawd i bobl gael ffydd yn y cyngor eto.

"Y ffordd i wneud hynny yw trwy weithredu pethau.

"Mae pethau mewn llaw i edrych i mewn i hyn yn fanwl."

Fel beth?

"Fel y Bwrdd Ymateb er enghraifft, y Cynllun Ymateb.

"Os ga i son am hwnna?

"Mae 'na Gynllun Ymateb yn ei le ers mis Ionawr wedi'i fabwysiadu gan y Cabinet.

"Mae Sally Holland, arbenigwr annibynnol sy'n cadeirio hwnna.

"Dw i'n ddiolchgar iddi hi.

"Dw i di sylweddoli efo trafodaethau efo pobl eraill hefyd yw pwy sydd ar goll o'r Bwrdd Ymateb ydy'r dioddefwyr.

"Maen nhw wedi dangos dewrder a bod gymaint ganddyn nhw i gynnig.

"Yn y Bwrdd Ymateb, os ydyn nhw'n fodlon byse fo'n andros o werthfawr cael llais y dioddefwyr.

"Rhaid i fi ddod a fo 'nol ar ddiwedd y dydd at y bobl sy'n bwysig.

"Y bobl ddewr ddaru sefyll i fyny i'r bwli mwyaf yng Ngwynedd.

"Roedd o'n defnyddio bob tacteg.

"Tacteg hyll o fwlio a thactegau grooming o dan yr wyneb.

"Y bobl wnaeth sefyll i fyny oedd y goroeswyr a'r dioddefwyr.

"Nhw dw i'n meddwl amdan.

"Dw i wedi gwneud yr ymchwiliadau, mae hynny'n glir.

"Dw i wedi rhoi Bwrdd Ymateb mewn lle.

"Dw i'n addo rwan i weithredu ar yr adroddiad hynod anodd a rhoi pethau mewn lle fel bod hyn ddim yn digwydd eto.

"Mae'r ymateb yn dangos fy mod i o ddifri pan dw i'n dweud hyn."

Eich geiriau chi, bwli mwyaf Gwynedd.

Roedd eich swyddogion a'ch cynghorwyr yn gwybod am hyn.

Mae dau dribiwnlys wedi bod a wnaethoch chi dal ei ddyrchafu i fod yn bennaeth mewn ysgol arall a rhoi cyfle eto iddo fo fod yn beryglus i ddisgyblion eraill.

Dyw pobl methu credu.

O'dd eich swyddogion chi'n gwybod.

Eich swyddogion wnaeth gynghori llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle i benodi Foden.

Cafodd godiad cyflog i fynd i Ysgol Dyffryn Nantlle.

"Mae'n warthus.

"Dw i'n darllen yr adroddiad fy hun.

"Dw i'm yn trio amddiffyn neb.

"Dw i'n derbyn yr argymhellion a'r adroddiad yn llawn."

Bydd 'na bobl yn cael eu cosbi am hyn?

"Dyna mae trethdalwyr Gwynedd yn gofyn i ni ofyn."

Bydd 'na bobl yn cael eu cosbi?

"Mae pobl eisiau gwybod hwnna.

"Dw i'n deall yn iawn.

"Mae'r gwylwyr hefyd yn deall trwy eu swyddi eu hunan bod prosesau i ddilyn.

"Dw i wirioneddol ddim yn meddwl bod nhw'n deall sut bod cymaint wedi mynd trwy'r rhwyd.

"Dw i'n gwybod bod chi'n cydnabod o ac wedi ymddiheuro."

Oes weithredu'n mynd i fod ar y bobl sydd wedi methu?

"Mae gweithredu a phrosesau ar waith yn barod, Elen."

Sdim amheuaeth mae Foden ydy'r dyn drwg yma.

Fo sydd wedi gwneud y troseddau erchyll 'ma i gyd.

Ond mae methiannau'n disgyn ar ysgwyddau Cyngor Gwynedd.

Sdim amheuaeth o hynny chwaith bod o 'di gallu gwneud hyn ar draws y blynyddoedd.

Sut dach chi'n mynd i ddod o hyn?

Mae'n ddamniol.

"Dw i'n teimlo fo ar fy ysgwyddau fy hun, Elen.

"Dw i'n teimlo'r cyfrifoldeb a'r dyletswydd."

Chi ddim yn teimlo bod chi eisiau edrych ar eich swydd eich hun?

"Fel dw i 'di dweud, fedra i'm troi fy nghefn ar hyn.

"Mae'r adroddiad wedi dod a dw i'n derbyn o'n llawn.

"Dw i'n cydnabod.

"Y peth anoddaf ydy cymryd cyfrifoldeb ac aros yma i wneud y gwaith.

"Dyna beth dw i am wneud."

Nia Jeffreys, diolch o galon i chi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.