Teyrnged teulu i daid a fu farw wedi gwrthdrawiad ger Caernarfon
Mae teulu dyn a fuodd farw wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Geraint Jones, 64 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ger Bontnewydd am tua 20.30 nos Sul, 9 Tachwedd.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Jones yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu bellach wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud eu bod yn "caru'r gŵr, tad a thaid.”
"Mae ein calonnau wedi torri'n llwyr.
“Fel teulu hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys a phawb arall oedd yn bresennol am eu cymorth wrth geisio helpu Geraint ar y noson.
“Hoffwn ddiolch i bawb hefyd am eu negeseuon caredig llawn cariad a chefnogaeth yn ystod yr amser trist yma.
Mae Geraint Jones yn gadael gwraig, Mary, dau fab, Richard a Patrick, a’i wyrion a’i wyres Ella, Leo ac Isaac.