Ymgyrch gan heddluoedd Cymru i fynd i'r afael â cham-drin rhywiol plant ar-lein
Fe fydd heddluoedd Cymru yn cydweithio gydag elusen amddiffyn plant i fynd i’r afael â cham-drin rhywiol ar-lein.
Fe fydd heddluoedd Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent yn ymgyrchu gyda Sefydliad Lucy Faithfull i geisio atal achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein.
Fe wnaeth 11,353 o bobl yng Nghymru geisio cymorth gan ymgyrch Stop It Now sy’n cael ei redeg gan Sefydliad Lucy Faithfull yn 2024 - cynnydd o 34% o gymharu â 2023
Dywedodd yr elusen fod rhain yn cynnwys 476 o bobl yn ardal Heddlu Dyfed Powys, 816 o bobl yn ardal Heddlu Gwent, 622 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, a 3,466 yn ardal Heddlu De Cymru.
Roedd y galwadau gan bobl yn ymwneud â phryder am eu hymddygiad rhywiol eu hunain neu ymddygiad rhywiol gan rywun arall tuag at blant ar-lein.
Fe fydd heddluoedd Cymru nawr yn gweithio mewn partneriaeth ag ymgyrch Stop It Now ag elusen Sefydliad Lucy Faithfull ledled y DU i geisio atal achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein.
Cymorth a chyngor
Mae'r ymgyrch yn cyfeirio unrhyw un yng Nghymru sy'n pryderu am ei ymddygiad ar-lein ei hun neu ymddygiad rhywun arall at linell gymorth Stop It Now “er mwyn helpu i atal achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar lein – cyn iddynt ddigwydd”.
Dywedodd Wayne Bevan, sydd yn Dditectif Uwch-arolygydd ac yn Arweinydd yr Heddlu yng Nghymru ar gyfer Camfanteisio a Cham-drin yn Rhywiol ar Blant: “Rydym yn gwybod bod plant yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein a'u bod yn mwynhau defnyddio'r rhyngrwyd i chwarae gemau neu i siarad â'u ffrindiau y tu allan i'r ysgol.
"Dylent allu gwneud hyn yn ddiogel a heb y risg o ddioddef trosedd.
“Fodd bynnag, mae nifer bach o oedolion sy'n gweld platfformau gemau a chyfryngau cymdeithasol poblogaidd fel ffordd o gysylltu â phobl ifanc gyda'r bwriad o gamfanteisio'n rhywiol arnynt.
"Mae'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i rywun dieithr gysylltu â phlentyn ar-lein yn gyflym iawn, a'n nod yw sicrhau bod plant yn parhau i fod yn ddiogel a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag yr ymddygiad rheibus hwn."
Dywedodd Rheolwr Sefydliad Lucy Faithfull Cymru, Claire Short: “Mae troseddau rhywiol yn erbyn plant ar-lein yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru.
"Mae'r bobl sy'n troseddu yn y ffordd yma yn dod o bob cefndir, ac nid oes un math o berson sy'n ymwneud ag ymddygiad o'r fath.
"Mae'r ymgyrch hon yn tynnu sylw at y mater, i godi ymwybyddiaeth o'r niwed y mae'n ei achosi ac, yn bwysig, y cymorth rydym yn ei gynnig."
Mae modd i gysylltu ag ymgyrch Stop It Now ar 0808 1000 900 neu ar www.stopitnow.org.uk i gael cyngor a chymorth dienw
