Clwb nofio yn ymddiheuro ar ôl i'w gwefan ddangos cynnwys pornograffig

Nofio

Mae clwb nofio yng Nghaerdydd wedi ymddiheuro ar ôl i’w gwefan gyfeirio defnyddwyr at ddeunydd pornograffig.

Dywedodd Clwb Nofio Cardiff Masters eu bod yn “ymddiheuro am unrhyw niwed rydym wedi achosi” i bobl a oedd wedi ymweld â’r wefan, a bod y deunydd bellach wedi’i ddileu.

Wrth ymweld â gwefan y clwb nofio, roedd y ddolen yn cyfeirio defnyddwyr yn awtomatig at wefan bornograffig ac nid at wefan y clwb.

Digwyddodd hyn gan fod perchnogaeth y clwb nofio dros enw’r wefan, neu’r 'domain', wedi dod i ben.

Mae modd i bobl brynu enw gwefan a’i berchnogi am gyfnod o amser, ac yn yr achos yma roedd cyfnod Cardiff Masters fel perchnogion enw eu gwefan wedi dod i ben.

Dywedodd Clwb Nofio Cardiff Masters eu bod “heb fod yn berchen ar yr enw domain ers Rhagfyr 2024” ac “nad oeddent yn ymwybodol bod enw’r wefan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnwys amheus.”

Mae’r clwb yn un o glybiau cyswllt y corff llywodraethu Nofio Cymru, ac mae’r corff wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod wedi tynnu’r ddolen oddi ar eu gwefan.

‘Synnu’

Roedd Alaw Williams o Gaerdydd “wedi synnu” ar ôl gweld cynnwys y wefan tra’n chwilio am glybiau nofio yn y brifddinas.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod wedi “clicio ffwrdd mor sydyn” ar ôl i’r wefan ei chyfeirio at y cynnwys amheus.

“O’n i jyst yn chwilio ar-lein am glybiau nofio yng Nghaerdydd, dim byd cystadleuol, jyst rhywbeth hamddenol,” meddai.

“Oedd y clwb ‘ma wedi dod fyny ar wefan Swim Wales, ac wedyn o’n i eisiau gwybod mwy amdano fo.

“So nes i glicio ar y ddolen, a dyma fo’n mynd â fi i wefan amheus.”

Image
Nofio
Defnyddiodd Alaw Williams gwefan Nofio Cymru i chwilio am glwb nofio yn y brifddinas.

Ychwanegodd Ms Williams: “Neshi glicio ffwrdd mor sydyn achos o’n i wedi synnu a dim ishe cael firus na dim ar ffôn fi.

“Felly dwi heb fynd nôl i edrych eto wedyn, ond ma’n bechod achos wan dwi methu gweld y gwybodaeth am y clwb nofio yna.

“Do’dd o ddim yn rwbath o’n i’n disgwyl gweld wrth chwilio am glwb nofio."

'Gweithredu ar frys'

Defnyddiodd Ms Williams y blwch ‘Darganfod Clwb’ ar wefan Nofio Cymru er mwyn chwilio am glybiau nofio yng Nghaerdydd.

Mae’r adnodd hwnnw ar y wefan yn cynnwys dolenni i gannoedd o glybiau ar draws Cymru, meddai Nofio Cymru.

Dywedodd y corff llywodraethu eu bod bellach yn gwirio’r holl ddolenni i sicrhau nad oes unrhyw gynnwys amheus arnynt.

“Mae Nofio Cymru wedi cael gwybod am hen enw gwefan a oedd yn cael ei ddefnyddio gan un o’n clybiau cyswllt yn y gorffennol, sydd bellach dan berchnogaeth rhywun arall sy’n ei ddefnyddio ar gyfer cynnwys amheus,” meddai’r corff llywodraethu wrth Newyddion S4C.

“Cyn gynted ag y daeth hyn i’n sylw, gweithredodd Nofio Cymru a’r clwb ar frys i gael gwared ar y ddolen o’n gwefan a’n system aelodaeth.

“Nid yw’r ddolen bellach ar gael drwy unrhyw un o blatfformau Nofio Cymru.

“Hoffem ymddiheuro unwaith eto i unrhyw un a welodd y cynnwys hwn ar ôl ymweld â’n gwefan. Rydym yn adolygu pob dolen sydd wedi’i darparu gan ein clybiau cyswllt er mwyn atal i rywbeth tebyg ddigwydd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Clwb Nofio Cardiff Masters eu bod yn “gweithio gyda Nofio Cymru i ymchwilio i’r mater ac yn ymddiheuro am unrhyw niwed a achoswyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.