Ceisiwr lloches gafodd ei ryddhau o'r carchar ar ddamwain 'wedi ei weld ddiwethaf ddydd Gwener'
Fe gafodd ceisiwr lloches a gafodd ei ryddhau o'r carchar mewn camgymeriad ei weld ddiwethaf yn nwyrain Llundain nos Wener yn ôl Heddlu'r Met.
Roedd Hadush Gerberslasie Kebatu, 38 oed, yn y carchar am ymosod yn rhywiol ar ferch 14 oed a dynes yn Epping, Essex.
Roedd wedi bod yn byw yng ngwesty'r Bell yn Epping cyn iddo gael ei garcharu am 12 mis ym mis Medi.
Fe gafodd Kebatu ei weld ychydig cyn 20:00 yn ardal Dalston o Hackney nos Wener, ac mae heddlu ychwanegol wedi cael eu hanfon i'r ardal wrth i'r chwilio amdano barhau i'r trydydd diwrnod bellach.
Fe gafodd ei weld hefyd ar CCTV mewn llyfrgell yn Sgwar Dalton tua dwy awr yn gynharach yn gwisgo dillad llwyd a bag gwyn.
Roedd Kebatu i fod i gael ei anfon i ganolfan gadw mewnfudo i adael y DU, ond fe gafodd ei ryddhau mewn camgymeriad.
Fe gafodd ei gamgymryd fel carcharor a oedd yn cael ei ryddhau ar drwydded.
Mae ffynhonnellau o'r carchar wedi cadarnhau fod staff wedi ei arwain i ffwrdd o'r carchar tuag at yr orsaf drenau.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Kebatu geisio dychwelyd i'r carchar ond fe gafodd ei wrthod.
Nid yw'n glir os yw Kebatu, sydd ddim yn siarad llawer o Saesneg, yn ymwybodol o'r ymgyrch chwilio enfawr i ddod o hyd iddo.
Dywedodd Syr Keir Starmer fod y digwyddiad yn "gwbl annerbyniol".
Mae swyddog carchar wedi cael ei dynnu oddi ar ei ddyletswyddau i ryddhau carcharorion tra bod ymchwiliad ar y gweill.
Wedi i Kebatu gael ei arestio ym mis Gorffennaf, fe gafodd nifer o brotestiadau eu cynnal y tu allan i Westy'r Bell yn Epping.
Fe gyrhaeddodd Kebatu y DU ar gwch bach ddyddiau yn unig cyn y digwyddiad ym mis Gorffennaf, pan ddywedodd wrth ddwy ferch ifanc ei fod eisiau "cael babi gyda'r ddwy" a cheisio eu cusanu, cyn mynd ymlaen i roi ei law ar un o goesau'r merched a chwarae gyda'i gwallt.
Clywodd yr achos fod Kebatu hefyd wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes drwy geisio ei chusanu, rhoi ei law ar ei choes a dweud wrthi ei bod yn brydferth.
Cafwyd Kebatu yn euog o bum trosedd yn yr achos ym mis Medi.
Clywodd y llys yn ei wrandawiad dedfrydu mai ei “ddymuniad cadarn” oedd gadael y DU.