Newyddion S4C

Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dychwelyd

Newyddion S4C 20/08/2021

Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dychwelyd

Nos Iau oedd noson gyntaf Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’n un o ŵyliau cerddorol, celfyddydol mwyaf Cymru sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ers 2003, ond llynedd cafodd ei chanslo yn sgil y pandemig

Dyma'r ŵyl fawr gyntaf i ddigwydd heb amodau Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan berfformwyr adnabyddus o Gymru gan gynnwys Gruff Rhys, Charlotte Church a Gwenno.

‘Mae fe'n wych’

Mae Rhys Underwood sy’n aelod o’r band Bandicoot yn hapus i gael perfformio unwaith eto.

“Mae fe'n wych reali, mae fe'n rhywbeth ni ’di bod yn breuddwydio am ers i bopeth cau lawr reali," dywedodd. 

“Ch'mod y rheswm bod ni'n neud hyn yw gallu chwarae'n fyw ac i allu cael yr egni 'ma mas a chael cynulleidfa o'n blaen ni.

“Mae fe jyst 'di bod yn deimlad anhygoel reali i allu neud hwnna o'r diwedd a jyst cael y cysylltiad ’na ’da pobl eto a dangos y caneuon newydd hefyd i'r dorf.”

Cerddor arall sydd “methu aros” i gael rhannu ei gerddoriaeth gyda chynulleidfa unwaith eto yw prif leisydd a gitarydd Melin Melyn, Gruff Glyn.

Image
Melin Melyn [Twitter]
Bydd Melin Melyn a Gwenifer Raymond yn chwarae dydd Sadwrn 21 Awst yng ngŵyl Greenman 2021. [Llun: Twitter - Melin Melyn]

“Fel pob band arall dwi’n edrych ’mlaen, ond hefyd i weld cerddoriaeth byw fel ffan cerddoriaeth, i fynd i Green Man dan amodau sy’n ddiogel erbyn hyn, yn rili cyffrous, so, methu aros.”

Gwyliwch gyfweliad Gruff Glyn yn llawn yma.

Mae’r ŵyl hefyd yn gyfrifol am fwydo £15m i economi Cymru gan gyflogi 5,000 o bobl.

Mae Philip Thomas perchennog bragdy Twt Lol wedi disgrifio’r gwerthiant gan gynhyrchwyr o Gymru yn yr ŵyl yn “hollol anhygoel”.

“Y tro cyntaf wnaethon ni ’neud Gŵyl y Dyn Gwyrdd odd ’na ddigon o arian ar ôl i ni fuddsoddi mewn i’r bragdy, i ehangu'r nifer o breswylwyr a'r cyflenwyr odd ’da ni," meddai. 

“Ac felly y tro hyn, yr un peth eto, 'da ni'n gobeithio bydd 'na ddigon o elw yn dod mewn er mwyn i ni allu ehangu ac i gyflogi mwy o bobl.

“Felly dwi'n gwerthfawrogi shwt gymaint bod Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cefnogi busnesau lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.