Newyddion S4C

Artistiaid ‘methu aros’ i ddychwelyd i ŵyl y Dyn Gwyrdd eleni

20/08/2021

Artistiaid ‘methu aros’ i ddychwelyd i ŵyl y Dyn Gwyrdd eleni

Gyda gŵyl y Dyn Gwyrdd ar fin cychwyn mae Newyddion S4C wedi siarad â rhai o’r cerddorion sydd am berfformio’n fyw yno eleni.

Yn dilyn dros flwyddyn o gyfnodau clo, mae’r artistiaid yn awyddus i gael y cyfle i ddychwelyd i’r byd o gerddoriaeth byw.

Dyw Gruff Glyn, prif leisydd a gitarydd Melin Melyn, “methu aros” i gael rhannu ei gerddoriaeth gyda chynulleidfa unwaith eto.

Gan berfformio gyda’i fand yn yr ŵyl am y tro cyntaf eleni, maen nhw’n awyddus i ymuno â’r “swigen fawr o awyrgylch rili hapus a chyffrous” sydd ar gael yn y Dyn Gwyrdd.

Dywedodd: “Fel pob band arall, ond hefyd i weld cerddoriaeth byw fel fan cerddoriaeth, i fynd i'r ŵyl yn amodau erbyn hyn sy’n ddiogel, yn rili cyffrous, so, methu aros.

“Odd’ gig cynta’r band yn 2019 ac odd’ y gig byw ddiwetha' wnaethon ni o flaen cynulleidfa ym Mawrth 2020.

“Hwn bydd y tro cyntaf i ni chwarae o flaen cynulleidfa fyw ers dros flwyddyn felly, methu aros – rili edrych ymlaen.”

‘Hoff ŵyl’

Yn perfformio yn yr ŵyl am yr eildro, mae’r gitarydd Gwenifer Raymond yn awyddus i ddychwelyd i’w “hoff” ŵyl.

Dywedodd: “Mae wedi bod cwpl o flynyddoedd caled i gerddorwyr ond Greenman yw fy hoff festival i, mae’r unig un fi’n typically mynd am y penwythnos.

“Mae’n amser rhyfedd, rhyfedd iawn i gerddorwyr ond mae’n fel gwneud unrhyw beth am y tro cyntaf – mae’n mad a chi ddim yn meddwl y bydd hi’n mynd nôl i normal ond mae yn.

“Ti’n cael ‘back into the groove’ eithaf quick i ddweud y gwir,” ychwanegodd.

Bydd Melin Melyn a Gwenifer Raymond yn chwarae dydd Sadwrn 21 Awst yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.