Newyddion S4C

Cynnal sioeau amaethyddol yn ‘gam aruthrol’ i les ffermwyr

Cynnal sioeau amaethyddol yn ‘gam aruthrol’ i les ffermwyr

Mae’r ffaith bod sioeau amaethyddol yn gallu cael eu cynnal eleni yn “gam aruthrol”, yn ôl elusen sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl yn y diwydiant amaeth.

Daw’r sylwadau ar drothwy ail ddiwrnod Sioe Amaethyddol Sir Benfro.

Nid oedd yn bosib cynnal y sioe'r llynedd o ganlyniad i’r pandemig.

Ond eleni mae’r sioe yn ôl ar gyfer cystadleuwyr ac aelodau cymdeithas y sioe, gyda digwyddiad deuddydd yn hytrach na’r tridiau arferol.

Dywed trefnwyr y sioe eu bod yn gobeithio gallu cynnal sioe “hynod arbennig” yn 2022.

Image
NS4C
Mae Sioe Amaethyddol Sir Benfro yn ddigwyddiad deuddydd yn lle’r tridiau arferol.

Dywedodd Angharad Edwards, Llysgennad Sioe Amaethyddol Sir Benfro 2021: “O’dd e yn hynod hynod bwysig ‘leni bod rhwbeth yn gallu digwydd. 

“Yn amlwg, mae tipyn yn llai o sioe na’ ni’n gyfarwydd â hi ond na, mae jyst yn gyfle i adeiladu pethe lan ‘to, dechre o’r gwaelod falle a jyst cael dechre’n syml a gobeitho adeiladu arno flwyddyn ar ôl blwyddyn o fan hyn ‘mlaen”.

‘Pinacl y flwyddyn’

Mae gallu cwrdd wyneb yn wyneb unwaith eto yn golygu tipyn i ffermwyr, yn ôl cynrychiolydd o elusen Tir Dewi.

Dywedodd Wyn Thomas wrth Newyddion S4C: “Dou beth ma’ ffermwyr wedi bod yn gweud drw’ gyfnod Covid yw bod nhw’n gweld ishe mynd i’r marts a bo nhw’n gweld ishe’r sioeau.

“Chimod, ma’ hwn yn binacl y flwyddyn, cyfnod y sioeau, i ffermwyr yn amal iawn”.

Cafodd Tir Dewi ei lansio yn ystod haf 2015, mewn ymateb i’r “angen difrifol” am rywun i gynorthwyo ffermwyr y gorllewin mewn cyfnodau heriol.

Mae’r elusen yn cynnig llinell gymorth, gwasanaeth i wrando a chynnig cyngor.

Ychwanegodd Mr Thomas: “Mae e’n fwy na’ jyst diwrnod mas, mae e’n wyliau iddyn nhw a ma’ dechre dod ‘nôl i gwrdd â’n gilydd, mae e’n gam aruthrol a ma’ pawb ni ‘di gweld yma wedi bod yn gweud pwy mor hyfryd yw hi i gael gweld pobol ‘to”.

Image
NS4C
Dywed Wyn Thomas o Tir Dewi fod sioeau o’r fath yn ‘binacl y flwyddyn’ i nifer o ffermwyr.

‘Andros o bwysig’

Mae pwysigrwydd y sioeau amaethyddol i lesiant ffermwyr hefyd wedi ei gydnabod gan elusennau eraill hefyd, gan gynnwys Sefydliad DPJ.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones.

Yn dilyn hunanladdiad Daniel, sefydlodd ei wraig Emma gronfa i gefnogi pobl sy’n byw gydag iechyd meddwl isel.

Dywedodd Elen Williams o Sefydliad DPJ fod y pandemig a'r cyfnod clo wedi bod yn arbennig o anodd i ffermwyr.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae diwrnod allan i’r farchnad neu i sioeau ‘di bod yn fwy na’ jyst dangos livestock a ballu, mae o’n rhan o gael sgwrs neu gweld ffrind ‘da chi’m ‘di gweld ers oes a mae o ‘di bo’n andros o bwysig i bobol gallu cael siarad fel ‘na.

“So mae o’n neis iawn bo ni’n cael dod ‘nôl allan i’r sioeau bach neu mawr ag yn ôl i’r gymdeithas i gael siarad efo bobol a ffrindia’”.

Wrth i’r cyfyngiadau lacio a gyda chyfnod y sioeau yn ei hanterth, gobaith yr elusennau yw y bydd mwy o ffermwyr yn ymwybodol bod cymorth ar gael ac yn cymryd y cyfle i rannu eu teimladau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.