Chwilio am deulu neu gwpwl newydd i ofalu am Ynys Enlli
Mae Ynys Enlli, sydd wedi ei lleoli oddi ar arfordir Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd, yn chwilio am unigolion newydd i fyw a gweithio yn un o lefydd mwyaf anghysbell Cymru.
Mae Ynys Enlli, sy'n cael ei hadnabod hefyd fel ynys y seintiau, yn gartref i nifer o ymwelwyr dros fisoedd yr haf, ond dim ond tri o bobl sy'n byw ar yr ynys drwy gydol y flwyddyn.
Yn 2023, fe ddaeth yr ynys hefyd yn gartref i Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Ewrop, sy'n golygu bod yr olygfa o'r ynys yn ystod y nos, heb ei llygru gan oleuadau o ardaloedd trefol a dinesig.
Am y tro cyntaf mewn bron i 20 mlynedd, mae'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ac yn rhedeg yr ynys, wedi hysbysebu eu bod yn gobeithio "croesawu teulu neu gwpl anturus" i ddod i fyw a gweithio ar yr ynys.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb "mewn her a sialens newydd" i gyflwyno cais i'r ymddiriedolaeth, ac mae'n fwriad y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgartrefu ar yr ynys erbyn mis Medi 2026.
Unwaith bydd yr ymgeiswyr wedi setlo ar yr ynys, fe fydd y preswylwyr newydd yn gyfrifol am 200 o ddefaid a 25 o wartheg Duon Cymreig, wrth rannu cyfrifoldebau â'r tenant presennol, Gareth Roberts, o Aberdaron.