Cyn-Archdderwydd: 'Angen arian a gweledigaeth' i wella lefelau llythrennedd plant Cymru
Mae angen mwy o wariant ar y celfyddydau er mwyn gwella llythrennedd plant Cymru, yn ôl y Prifardd a'r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le, dywedodd y cyn-Archdderwydd a pherchennog Gwasg Carreg Gwalch fod toriadau gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn golygu bod y gwariant ar y celfyddydau yng Nghymru ymhlith yr isaf y pen drwy Ewrop gyfan yn y ddegawd ddiwethaf.
“Mae hyn yn fy mhoeni i oherwydd mae’n taro pob agwedd ar ein diwylliant ni, ac o safbwynt y Gymraeg, mae’r elfen ddiwylliannol yn eithriadol o bwysig - ond yn anffodus mae’r toriadau’n golygu bod theatrau’n cau, cymdeithasau llyfrau yn methu denu siaradwyr gwadd, a llyfrgelloedd ysgolion yn cau - ac yn y diwedd, plant a phobl ifanc sy’n colli allan.”
Yn ystod y profion PISA diweddaraf yn 2022, sy’n asesu gallu pobl ifanc mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, Cymru wnaeth berfformio waethaf ymhlith holl wledydd Prydain.
Roedd gwledydd eraill Prydain wedi perfformio’n well na’r lefel gyfartalog yn rhyngwladol, ond yng Nghymru, roedd fwy na 3% yn is na’r lefel gyfartalog.
'Gweledigaeth'
Mae Myrddin ap Dafydd yn pryderu bod toriadau i‘r celfyddydau yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa. Wrth gyfeirio at y profion PISA, dywedodd:
“Roedd lefel darllen plant Cymru yn sylweddol is na lefel cyfartalog y gwledydd eraill yn y profion, ac wedi gwaethygu rhwng 2018 a 2022.
"Os ydan ni’n cymharu hyn ag Iwerddon, gwlad debyg iawn i Gymru o ran ei maint, ei diwylliant a’i heriau - roedden nhw’n un o’r gwledydd wnaeth berfformio orau.”
Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o barch at y celfyddydau er mwyn gwella lefel llythrennedd plant Cymru: “Oes, mae angen mwy o wariant ar y celfyddydau er mwyn cefnogi plant Cymru’n well.
"Ond mae angen gweledigaeth hefyd. Ers cyfnod datganoli, mae’r arweinwyr gwleidyddol wedi tueddu i feddwl mai digideiddio ydy’r ateb i bopeth - ond os ydan ni am weld llythrennedd go iawn a Chymru’n dringo’r tablau, mae angen i hynny fynd law yn llaw â chyfleodd i blant ddarllen lyfr ac ysgrifennu ar bapur.
"Ac mae hynny’n dod drwy fwy o barch ac arian i’r celfyddydau."
Ddydd Mercher, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £8.2 miliwn i sefydlu rhaglen ysgol genedlaethol newydd ar gyfer llythrennedd.
Mae’r grant wedi cael ei roi i Brifysgol Bangor sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer dysgu llythrennedd fydd yn rhoi cymorth dwyieithog i blant 3-16 oed ledled Cymru.
'Mynd ymhell tu hwnt'
Wrth ymateb i sylwadau Myrddin ap Dafydd, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cynyddu ein gwariant ar gyfer y sector diwylliant ehangach 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl.
"Mae ein buddsoddiad yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn, ac rydym yn gwario mwy na £200m ar ddiwylliant a rhaglenni diwylliannol ar draws llawer o adrannau eraill.
"Rydym yn parhau i gefnogi'r sector cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru ac mae ein cyllid iddynt wedi cynyddu eleni."
Ychwanegodd y Llywodraeth: "Rydym hefyd yn gweld gwelliannau mewn darllen Saesneg a chyrhaeddiad darllen Cymraeg ac yn buddsoddi £13.2m mewn rhaglenni llythrennedd dros y 3 blynedd nesaf i alluogi ysgolion i barhau i wella canlyniadau llythrennedd i bob dysgwr."
Mae Y Byd yn ei Le ar gael i'w wylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.